Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 20 Mawrth 2018.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Yn eu tro, soniodd am y newidiadau i'r corpws o gyfraith a'r gwelliannau a allai ddod yn rhan o'r gwaith cydgrynhoi. Mae'n bwysig iawn pwysleisio'r ffaith nad yw ymarfer cydgrynhoi yn ymwneud â diwygio'r gyfraith, ac, yn y trafodaethau yr ydym ni wedi eu cael gyda Chomisiwn y Cynulliad ynghylch y gofynion gweithdrefnol y mae ymarfer cydgrynhoi yn eu cynnwys, mae wedi bod yn gwbl glir mai'r hyn nad ydym ni'n sôn amdano yw newid polisi; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â sicrhau bod y gyfraith yn gweithredu'n well, os mynnwch chi. Ac, a dweud y gwir, mae'n sôn am y pwynt ynghylch awdurdodaeth—wyddoch chi, nid dyna yw prif nod yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn. Hoffwn i adleisio ei bwynt, mewn gwirionedd, ei fod yn ymwneud â'r defnydd ymarferol o'r gyfraith, ei gwneud yn fwy dealladwy a'i gwneud yn fwy hygyrch yn yr ystyr o ddydd i ddydd. Dyna yw prif amcan fy nghynnig yn yr ymgynghoriad hwn.
O ran mater y Ddeddf Dehongli, y gwir amdani yw bod Deddf 1978 yn cynnwys llawer o ddeunydd nad yw'n berthnasol i ddeddfwriaeth a wneir yn y lle hwn drwy gyfrwng y setliad datganoli, ac, wrth gwrs, dim ond yn Saesneg y mae hi, ac felly mae corff cyfan o gyfraith awdurdodol yr ydym ni'n ei phasio yn y fan yma nad oes ganddi ei Deddf Dehongli ei hun, sef fersiwn Gymraeg o bob Deddf sy'n cael ei phasio gennym. Ac felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r ddwy agwedd hynny ac mae'r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer hynny.
Rwy'n credu, o ran y mater o wrthdaro, yn fy marn i, y peth pwysicaf yw bod gennym ni Ddeddf Dehongli sy'n gweithio ar gyfer y setliad datganoli yng Nghymru a'i bod yn glir iawn pan fo'r Ddeddf honno yn berthnasol a phan fo Deddf Dehongli 1978 yn berthnasol er mwyn i gyfreithwyr ac aelodau o'r cyhoedd allu mynd at ddeddfwriaeth gan ddeall yn glir lle y dylen nhw fynd i ddeall y gyfraith.