Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 20 Mawrth 2018.
—cyfreitheg Ewrop, ond rwy'n siŵr y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cytuno, oherwydd sonnir yn y datganiad ei hun y gall codio ddigwydd hefyd, wrth gwrs, mewn awdurdodaethau y gyfraith gyffredin, fel yr Unol Daleithiau a Chanada, ac nid yw dim ond gwneud synnwyr o ddatblygiad anhrefnus, heb reolaeth, o gyfres o wahanol statudau neu Orchmynion a'u cydgrynhoi mewn un uned y gellir ei defnyddio'n haws yn union yr un fath â symud i gyfeiriad y math o ddull gweithredu 'teleolegol', fel yr hyn a geir mewn awdurdodaethau cyfraith Ewropeaidd.
Rwyf i fy hun wedi bod yn gydgrynhowr ar adegau, fel golygydd Butterworths' Land Development Encyclopaedia mwy o flynyddoedd yn ôl nag yr wyf yn dymuno eu cofio, a bob blwyddyn roedd yn rhaid i mi ddiweddaru unrhyw statudau neu offerynnau statudol a luniwyd yn ystod y flwyddyn a'u rhoi mewn un llyfr, gan ddileu'r hyn a oedd wedi'i ddisodli a mewnosod y mesurau newydd, ac mae hon yn broses gwbl ddibwrpas, nad yw o reidrwydd yn golygu unrhyw newid i gorpws y gyfraith ei hun. Ni allai unrhyw un, yn rhesymol, wrthwynebu'r hyn y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol oedd y nod, sef gwneud y gyfraith yn hygyrch, i alluogi dinasyddion i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau o dan y gyfraith.
Un o'r problemau mawr â'r gyfraith heddiw, wrth gwrs, yw cymaint y mae wedi tyfu, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pan oeddwn i, flynyddoedd lawer iawn yn ôl, yn ymarferydd treth, roedd Butterworths yn cyhoeddi cod treth bob blwyddyn. Yn 1965, roedd yn 750 o dudalennau; mae bellach yn 17,000 o dudalennau ac mae wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Po fwyaf o gyfraith a geir ar y llyfr statud yn ei amryw ffurfiau, y mwyaf anhygyrch y bydd, yn anochel, a'r mwyaf arbenigol y bydd. Ond mae'n hollbwysig y dylem ni ei gwneud mor hawdd â phosibl i lywio'r amrywiol lwybrau hyn. Felly, rwy'n croesawu'r arfer hwn.
Ni allai neb wrthwynebu ymgynghoriad. Pa un a yw'n arwain at y fenter fwy uchelgeisiol o greu awdurdodaeth ar wahân ar gyfer Cymru ai peidio, mae hynny'n fater arall yn gyfan gwbl, ond rwyf wedi cael rhai sgyrsiau diddorol iawn eisoes gyda'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd am hyn, ac mae'n gwneud ambell i bwynt pwysig iawn am faterion ymarferol y gyfraith yng Nghymru yn datblygu yn ddigon da i wasanaethu pobl yn ymarferol drwy ddim ond manylion fel datblygu system ffurflenni, er enghraifft. Ac ni ellir gwneud hynny'n hawdd mewn system gyfreithiol sydd ar hyn o bryd yn cael ei chyfarwyddo a'i rheoli o Lundain. Felly, rwyf yn ystyried hyn yn ddatblygiad dibwrpas.
Rwy'n pryderu am y posibilrwydd y bydd Deddf dehongli ar gyfer Cymru o bosibl yn ei gwneud yn fwy anodd deall y gyfraith yn hytrach nag yn haws, i'r graddau y gellid dehongli'r Ddeddf dehongli ei hun fel rhywbeth sy'n gwrthdaro â pha bynnag fesur sydd mewn grym yn Lloegr. Gwn fod yna Ddeddfau dehongli yn yr Alban, ac efallai na fydd hwn yn anhawster anorchfygol, ond mae'n hanfodol bwysig, oherwydd bod y gyfraith yng Nghymru, yn anochel, yn gwyro oddi wrth cyfraith Lloegr—ac mae'r broses ddatganoli a gadael yr UE yn arbennig, yn mynd i gyflymu hyn ac ehangu'r broses hon—y dylem ni o leiaf o ran dehongli, i'r graddau y gallwn ni, gysoni'r canonau o ddeunydd dehongli a'r ffordd y maen nhw'n gweithredu mewn modd sy'n gyson ledled y Deyrnas Unedig. Fel arall, yn y modd hwnnw, ceid hyd yn oed mwy o ddryswch. Felly, gobeithiaf y gall y Cwnsler Cyffredinol o leiaf ar y pwynt hwnnw fy modloni i yn ei ymateb heddiw.