Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 20 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr am y cwestiynau hynny. Maent yn cyffwrdd â sawl maes. Ar y cwestiwn cyntaf ar y berthynas rhwng hwn a gwaith y comisiwn, un o'r pethau mae'r comisiwn yn edrych mewn iddo wrth gwrs yw'r cwestiwn o hygyrchedd i'r system gyfiawnder yn gyffredinol, a hynny mewn ffordd eang. Fel wnes i sôn yn fy sylwadau, rwy'n credu ei fod yn hollol hanfodol mewn cyd-destun lle rŷm ni’n colli legal aid a'i bod jest yn anoddach i bobl gael access i gyngor cyfreithiol. Mae'n ddyletswydd benodol yn y cyd-destun hwnnw ar Lywodraethau i allu gwneud y gyfraith mor hygyrch ag sy'n bosibl, ac i gyhoeddi'r gyfraith mewn amryw ffyrdd, fel bod pobl yn gallu, nid yn unig ei ffeindio, ond ei ddeall pan fyddan nhw yn ei ffeindio.
Yr elfen arall i hynny yw, fel mae e'n gwybod, bod y comisiwn yn edrych ar y cwestiwn o awdurdodaeth a bydd consolidation a chreu'r codau yma yn ail-wneud y ddeddfwriaeth yma fel deddfwriaeth Gymreig ddwyieithog. Hynny yw, mae'n llanw'r categori hwnnw o ddeddfwriaeth Cymru mewn ffordd sydd yn lot fwy dealladwy a lot fwy penodol. Felly, mae hynny'n cyfrannu at sail y drafodaeth honno.
Rwy'n rhannu ei siom ef gyda chymaint o gynnydd rŷm ni wedi ei wneud yn nhermau cael gwefan ddwyieithog ddibynadwy i gyfraith Cymru. Rwyf wedi cael trafodaethau diweddar iawn gydag argraffydd y Frenhines ynglŷn â hyn i ffeindio ffordd i allu symud hynny ymlaen. Beth fuaswn i'n dweud wrtho yw bod yr elfen ieithyddol yn benodol i ni fan hyn wrth gwrs, ond yn awdurdodaeth Lloegr hefyd mae'r diffyg hwnnw'n perthyn i'r ffaith bod y deddfau sydd yn fanna ddim yn gyfredol chwaith. Felly, mae hon yn sialens ar draws y Deyrnas Unedig, yn anffodus. Rwyf i wedi bod yn trafod gyda nhw rhywbeth maen nhw wedi bod yn datblygu ar gyfer DEFRA yn Llywodraeth San Steffan—rhywbeth o'r enw DefraLex—sydd yn rhyw fath o index, mynegai dros dro fel ei bod yn haws i bobl ffeindio popeth sydd o fewn un maes hyd yn oed os nad yw wedi cael ei 'consolidate-o'.
O ran sut y byddai’r codau’n gweithio, byddai dyletswydd ar y Cwnsler Cyffredinol, o fewn chwe mis i bob Cynulliad, i gyflwyno cynllun i’r Cynulliad. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod ar hwnnw, a bydd y Cabinet a’r Gweinidogion wedi cytuno cynnwys y cynllun, a bydd yn rhaid edrych ar y pryd ar feysydd sydd yn barod i’w diwygio ac efallai bod cyfle yn hynny i allu gwneud rhywfaint o greu’r codau hyn, neu efallai os oes rhywbeth newydd gael ei ddiwygio a bod cyfnod o dawelwch polisi, bod hynny hefyd yn creu cyfle i allu gwneud peth o’r gwaith yma.
Rwy’n rhagweld y bydd cynllun a bydd sawl project o fewn cynllun. Efallai bydd project yn cymryd mwy nag un tymor Cynulliad i allu’i greu. Felly, os bydd hwnnw yn ei ffordd pan ddaw’r Llywodraeth newydd i rym, buasai’n bosib, wrth gwrs, i’r Llywodraeth atal hwnnw, ond buasai'n lot fwy tebygol, y byddwn i’n meddwl, o greu cynllun newydd ar gyfer y dyfodol. Bydd dyletswydd gyfreithiol ar y Llywodraeth i ddwyn cynllun yn ei flaen, ond bydd cynnwys y cynllun hwnnw’n dibynnu ar amgylchiadau deddfwriaethol a chynllun deddfwriaethol cyffredinol y Llywodraeth honno, o bryd i’w gilydd.