Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 20 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddwch chi'n falch o wybod, rydw i'n credu, bod David Melding wedi gofyn y rhan fwyaf o fy nghwestiynau. Felly, gwnaf i ganolbwyntio, efallai, ar y ffordd yr ŷm ni'n mynd i fynd o gwmpas pethau. Mae'n wir i ddweud na fydd yna lawer o boteli o champagne yn cael eu hagor yn dilyn y datganiad heddiw, ond mi ddylen nhw, achos mae hwn yn ddatganiad o bwys. Am y tro cyntaf, rŷm ni'n camu mas o gysgod San Steffan yn y ffordd yr ŷm ni'n mynd ati i lunio ein deddfwriaeth. Rydw i'n croesawu hynny. Wrth i ni droi ein cefnau ar yr Undeb Ewropeaidd rŷm ni'n agor y drws i ddull llawer mwy Ewropeaidd o lunio Deddfau a gwneud Deddfau yn fwy agored i'r cyhoedd. Roedd y Cwnsler Cyffredinol yn iawn, rydw i'n meddwl, i ganolbwyntio yn ei adroddiad gymaint ar gyfiawnder cymdeithasol. Rydw i wedi defnyddio'r enghraifft yma o'r blaen, ond mae'n dal i fod yn wir: rydw i wedi cael etholwr yn daer iawn yn dweud bod cyfraith tai yn ymwneud â'i sefyllfa yntau oherwydd bod y gyfraith yn dweud, 'This law applies in England and Wales', ond wrth gwrs, nid oedd hi yn yr ystyr yna. Cyfraith Lloegr yn unig oedd hynny. Felly, rydw i'n croesawu beth sydd wedi ei ddatgan yn fan hyn ac yn gobeithio y bydd yr ymgynghoriad yn arwain at hynny.
Jest ychydig o gwestiynau, felly. Mae'n amlwg ein bod ni fel Plaid Cymru yn credu y dylai fod awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân, ac y byddai'n llawer mwy rhwydd i nifer o'r pethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gosod allan pe bai hynny'n digwydd. Ond a fedrwch chi esbonio ym mha ffordd fydd y gwaith ymgynghorol yma yn mynd llaw yn llaw gyda gwaith comisiwn y gyfraith, sydd wedi'i sefydlu gan y Prif Weinidog, â'r Arglwydd Cwmgiedd yn gadeirydd arno, a sut mae'r ddau set o waith yn mynd i blethu gyda'i gilydd?
Rydw i'n dal yn gyndyn iawn ac yn anhapus a dweud y gwir gyda'r ffaith nad oes gennym wefan a gwybodaeth ddwyieithog lawn. Rŷch chi'n dweud nad oes yr adnoddau gan y Queen's printer a phobl felly. Wel, tra bod gyda ni awdurdodaeth Cymru a Lloegr, mae'n ddyletswydd arnyn nhw hefyd i roi adnoddau priodol fel bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad yn y Gymraeg at gyfraith Cymru, gan ein bod yn cyfreitha yn Gymraeg yn y fan hyn.
Rydw i'n meddwl ei fod yn anffodus ein bod ni o hyd, ar ôl tua phedair blynedd o ddadlau hyn, yn benthyg aelodau staff, rwy'n gwybod, o Lywodraeth Cymru i'r archif genedlaethol, ac maen nhw'n dal ddim wedi cyrraedd lle dylen nhw fod. Felly, a fedrwch chi ddweud pa waith pellach fyddwch chi'n gwneud ar hyn? Nid oes pwynt cael codau a chydgrynhoi'r gyfraith os nad oes gan bobl fynediad at y gyfraith i ddeall beth yw'r gyfraith yna.
Rwy'n gwybod eich bod wedi ateb David Melding ar hyn, ond a allwch chi esbonio, os medrwch chi, jest ychydig mwy am sut fydd y gwahanol godau'n digwydd? Rŷch chi'n cyfeirio at yr hanes yng Nghymru, wrth gwrs, a chod Hywel Dda. Roedd mwy nag un cod yn anffodus: roedd cod Gwynedd, cod Dyfed, cod Gwent, efallai codau sydd ddim wedi goroesi hyd yn oed. Rydym ni'n derbyn wrth gwrs y bydd mwy nag un cod, achos mae'n ymwneud â mwy nag un maes. Ond ym mha ffordd ydych chi'n gweld bod y Llywodraeth, neu, yn hytrach, y Cynulliad, yn gallu cael gafael ar ddatblygiad y rhain a gwneud yn siŵr eu bod nhw dal yn addas?
Wrth gwrs, ynghlwm wrth hyn mae'r ffaith eich bod chi'n gorfod gosod dyletswydd nid yn unig ar y Llywodraeth yma a'r Cwnsler Cyffredinol presennol, ond Llywodraethau i ddod. Sut cweit ydych chi'n gosod dyletswydd y mae unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol yn gallu anwybyddu neu wyrdroi neu beth bynnag? Pa ffordd ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n gallu rhoi'r ymrwymiad yma'n fwy concrit, os liciwch chi? Rwy'n gwybod eich bod chi o blaid y peth, ond cawn ni weld sut mae'n datblygu.
Wrth gwrs, ar dir mawr Ewrop, Napoleon oedd fwyaf enwog am ddatblygu codau o'r fath. Nid wyf i'n awgrymu am eiliad y byddwch chi'n Napoleon bach fan hyn yng Nghymru—byddai'n well gyda fi gweld Blegywyd Mawr yn dilyn ôl troed efallai y cyfreithiwr mwyaf sydd gyda ni yng Nghymru hyd yma.