Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:45, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, ni allaf roi unrhyw sicrwydd i chi ynglŷn â chyllid. Maent yn sgyrsiau parhaus. Byddaf yn cael fy nghyfarfod pedairochrog nesaf yn Llundain ddydd Llun. Mae arian yn eitem sefydlog ar yr agenda yn awr; mae fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau wedi mynnu hynny. Cytunaf yn llwyr; rydym yn llwyr wrthwynebu unrhyw Farnetteiddio mewn perthynas â'r cyllid hwnnw. Ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n mynd yn ôl i mewn i'r byd amaeth, hyd at 2022—yr un fath â rhannau eraill o'r DU.