Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 21 Mawrth 2018.
Rwy'n ddiolchgar am yr ymrwymiad gwleidyddol hwnnw os na chawn yr un deddfwriaethol maes o law.
Heddiw, fe gyhoeddoch chi hefyd eich pum egwyddor craidd ar gyfer dyfodol tir a'r rheini sy'n rheoli'r tir. Mae hyn yn cynnwys cynllun cymorth fferm newydd yn lle cynllun y taliad sylfaenol. Ond os yw'r arian sy'n cael ei ailddyrannu wrth inni adael yr UE yn cael ei ddyrannu i Gymru yn ôl unrhyw beth sy'n ymdebygu i fformiwla Barnett, yn hytrach na'n cyfran gyfartal a theg ein hunain o'r arian hwn, gŵyr pob un ohonom y byddwn o leiaf 40 y cant yn dlotach, gyda rhai rhannau o Gymru lawer yn waeth eu byd nag eraill. Felly, a allwch ddweud wrthym pa sicrwydd pellach y byddwch yn ei geisio gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chyllid? Rydym wedi sôn am bwerau, ond mae hyn yn ymwneud â'r arian. Ac a ydych mewn sefyllfa i roi sicrwydd eich bod yn credu y byddwn yn cael cyfran deg o'r arian, beth bynnag am unrhyw benderfyniadau y gellid eu gwneud ynghylch Biliau yma neu yn San Steffan?