Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i eich atgoffa chi, Ysgrifennydd Cabinet, tua 18 mis yn ôl gwnaethoch chi gychwyn ar y broses o ymgynghori ar y parthau nitradau yng Nghymru a'r angen i fynd i afael â'r rheini. Jest cyn y Nadolig, gwnaethoch chi gyhoeddi y byddech chi'n chwilio am gydweithredu gwirfoddol er pwrpas gwella'r amgylchedd o gwmpas nitradau. Mae Plaid Cymru yn cefnogi hynny achos rŷm ni o'r farn bod modd, efallai, cyrraedd gwell safon drwy gydweithio gyda'r gorau sydd yn y diwydiant. Ond, yn y cyfamser, wrth gwrs, mae Afonydd Cymru wedi colli amynedd, mae'n ymddangos, gyda'r broses hirfaith yma ac wedi dweud y byddan nhw'n cwyno i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â'ch perfformiad chi ar y mater yma. Beth fydd eich ymateb chi i'r Comisiwn Ewropeaidd ac a fedrwch chi ddweud wrth y Cynulliad beth yw'r amserlen bellach ar gyfer gosod yn ei le y gweithredu sydd ei angen yn y maes yma, ond gweithredu ar y cyd gyda'r diwydiant, nid yn orfodaeth dros y diwydiant?