Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch. Ie, fe sonioch fy mod wedi gwneud datganiad ym mis Rhagfyr y llynedd, yn dilyn yr ymgynghoriad a gawsom ar Barthau Perygl Nitradau. Sefydlais is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol, sy'n edrych ar hynny i mi. Rwyf hefyd wedi cyfarfod gyda'r grŵp yn ddiweddar, ac rwy'n disgwyl iddynt gyflwyno rhai argymhellion i mi erbyn diwedd mis Mawrth. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol a chyfreithiol, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad o symud ymlaen â dull gweithredu nad yw'n cyflawni'r gofynion hynny. Nid yw'r dull gwirfoddol wedi gweithio ar ei ben ei hun. Nid oeddwn yn awyddus i gael deddfwriaeth lawn; roeddwn yn awyddus i sicrhau cymysgedd o'r ddau beth. Fodd bynnag, mae'n hynod o siomedig ein bod yn dal i weld cymaint o lygredd amaethyddol yn ein hafonydd.