Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwyf innau, mewn gwirionedd, wedi rhoi'r un addewid â hithau i beidio â defnyddio cyllyll a ffyrc plastig. Yn sicr, credaf ein bod yn gwybod bod plastig yn broblem fawr. Mae'n sicr yn rhywbeth sydd yn y penawdau'n aml ar hyn o bryd. Fel rhan o'r astudiaeth o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r cynlluniau dychwelyd ernes posibl. A bydd hynny'n edrych ar bethau yn gyffredinol, o ran sut rydym yn adeiladu ar ein cyfraddau presennol, ond hefyd beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem honno y gwyddom ei bod yn bodoli o ran cynwysyddion diodydd, poteli plastig a deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu ond nad ydynt yn cael eu hailgylchu cystal ag y dylent ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael y drafft terfynol cyntaf o grynodeb yr adroddiad hwnnw, ac rwy'n gobeithio gallu ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.