Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 21 Mawrth 2018.
Weinidog, nid oes ond angen i chi gamu allan o'r adeilad hwn a cherdded draw at yr Eglwys Norwyaidd i weld llawer iawn o blastig yn arnofio yn ardal y bae. Ac er bod geiriau da'n cael eu dweud yn y Siambr hon, mae angen i bob un ohonom roi camau unioni ar waith i sicrhau ein bod yn lleihau ein defnydd o blastig ac yn glanhau ein hamgylchedd. Ond un peth sydd wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yw faint o blastig a all fod yn y system fwyd. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cael eu goruchwylio gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru, rôl i'w chwarae mewn arolygiadau a deall a yw hon yn broblem bosibl drwy'r gadwyn fwyd. Hoffwn gael gwybod a ydych wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch y mater hwn, ac os ydych wedi cael y trafodaethau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedasant wrthych, faint o berygl a geir o blastig yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ddynol a pheri risg bosibl i bobl?