Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:52, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae archfarchnadoedd bellach yn paratoi ar gyfer eu cyfnod blynyddol o hyrwyddo cig oen dros y Pasg, ac mae'n gyfle gwych, yn amlwg, ar gyfer cynhyrchwyr cig oen yng Nghymru. Cefais fraw wrth ddarllen, yn y fersiwn ar-lein o Farmers Weekly y bore yma, fod rhai manwerthwyr yn honni bod cig oen Prydain allan o dymor dros gyfnod y Pasg. Mae'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol wedi gwadu hyn yn llwyr, wrth gwrs, a honnant fod cig oen Prydain ar gael drwy'r flwyddyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf beth y mae'n ei wneud i sicrhau bod yr holl fanwerthwyr yn ymwybodol fod cig oen Cymru ar gael drwy'r flwyddyn, ac y dylent ei brynu?