Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 21 Mawrth 2018.
Wel, nid yw'r mater hwnnw wedi cael ei ddwyn i fy sylw. Rwy'n cyfarfod ag archfarchnadoedd, ac yn sicr, mae fy swyddogion yn cyfarfod gydag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill i sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'r cynnyrch Cymreig anhygoel sydd gennym a phryd y mae ar gael iddynt i'w werthu yn eu harchfarchnadoedd.