Gwastraff Plastig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:39, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Gan ddilyn ymlaen o'r cyfraniadau eraill, rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun dychwelyd ernes i gwtogi ar y defnydd o gynwysyddion diodydd untro. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn y tâl hynod lwyddiannus a godwyd ar fagiau plastig. A gaf fi annog y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw dâl dychwelyd ernes yn cael ei osod ar lefel a fydd yn gwneud y cynllun dychwelyd yn opsiwn hyfyw? Mae gennyf fantais, neu'r anfantais, o gofio'r system ddychwelyd ernes ar yr hen boteli Corona. Felly, mae'n werth nodi eich bod yn arfer cael tair ceiniog am bob potel a ddychwelid. Golygai hyn, yn erbyn y gost o 10c yn unig am botel lawn, fod y pris dychwelyd ychydig dros draean o gost y botel lawn. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried defnyddio'r un math o wahaniaeth?