Gwastraff Plastig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:38, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle, ac fel y dywedodd yr Aelod Julie Morgan, mae'n ymwneud â'r camau bach y gall pob un ohonom eu cymryd. A boed yn unigolyn, yn sefydliad, ar lawr gwlad neu yn y Llywodraeth, mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r materion hyn.

O ran y problemau posibl a berir gan blastig yn y system fwyd, rwy'n deall bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael cyfarfod gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Felly, os hoffech ysgrifennu ati, efallai y gall roi gwybod i chi sut aeth y cyfarfod hwnnw.