Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 21 Mawrth 2018.
Mae'n rhywbeth, yn sicr, y mae fy swyddogion wedi bod—. Credaf eu bod, fwy na thebyg, wedi cyfarfod â phob swyddog cynllunio ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru i drafod hyn. Rydym yn bryderus, yn gyffredinol, ynglŷn â gallu ein hadrannau cynllunio, nid yn unig ar draws yr awdurdodau lleol, ond yn amlwg, y tri pharc cenedlaethol hefyd. Felly, credaf fod yn rhaid inni edrych ar bopeth a allwn er mwyn ei gwneud yn haws, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n wirioneddol bwysig i'r economi.