Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o'r pethau sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig drwy'r system gynllunio yw lwfans mwy o dan hawliau datblygu a ganiateir. Un o'r mannau cyfyng a welaf mewn awdurdodau lleol yw'r nifer enfawr o geisiadau a ddaw gerbron llawer o awdurdodau lleol a'u hanallu i'w prosesu mewn modd amserol. Mae hyn yn arwain at sgil-effeithiau economaidd aruthrol, nid yn unig i'r economi wledig, ond i'r economi drefol hefyd.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet neu ei swyddogion wedi gwneud unrhyw asesiad o lacio rhai o'r mesurau rheoli mewn perthynas â hawliau datblygu a ganiateir fel ag y gwnaed mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i hybu datblygiad economaidd ac i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r ceisiadau na ddylent fod yn y system gynllunio, ac sy'n llesteirio gwaith adrannau cynllunio ledled Cymru?