Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 21 Mawrth 2018.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gohebu â chi ar faterion cynllunio mewn perthynas â datblygiad sylweddol iawn yn rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin ar hyn o bryd, sef ehangu unedau dofednod. Rydym wedi gweld llawer o geisiadau ar gyfer dofednod maes. Mae'n ymateb i'r farchnad; mae'n ymateb, yn rhannol, i Brexit, yn fy marn i. Mae'n ymwneud â'r diwydiant ei hun yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Felly, nid oes unrhyw broblem ynglŷn â hynny, ond ymddengys bod y rheolau cynllunio ynglŷn â'r unedau hyn wedi'u gwreiddio yn y gorffennol, gan nad ydym wedi ymdrin â nifer mor fawr o'r blaen. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad ydynt yn gwneud unrhyw sylwadau ynghylch ceisiadau cynllunio mewn perthynas â'r unedau hyn os nad ydynt yn gysylltiedig â ffermio dwys, ond mewn gwirionedd, gall dofednod maes achosi cymaint o lygredd, o bosibl, ag unedau dofednod dwys; mae'n ymwneud â natur y ffordd y cedwir yr ieir, yn enwedig pan fyddant dan do. Felly, a ydych yn hollol siŵr fod y gyfundrefn gynllunio bresennol ar gyfer unedau dofednod maes ac unedau dofednod eraill yn addas at y diben?