Y System Gynllunio

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:04, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud ein bod yn gweld cynnydd yn nifer yr unedau dofednod sy'n mynd drwy'r system gynllunio ac yn dwyn ffrwyth. A chredaf fod hyn yn ymwneud â ffermwyr yn arallgyfeirio, ac yn sicr, credaf fod Brexit yn effeithio ar hyn.

Dyma faes rwyf wedi gofyn am gyngor yn ei gylch, oherwydd cafwyd enghraifft yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mewn gwirionedd—nid yn fy etholaeth i—lle y cefais gryn dipyn o ohebiaeth a nodai y gall fod yn llawer mwy dwys na rhai mathau o amaethyddiaeth. Felly, yr ateb byr yw 'Nac ydw', ond rwy'n edrych am gyngor ynglŷn â hynny i sicrhau eu bod yn addas at y diben, a buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod wedi i mi gael y cyngor hwnnw.FootnoteLink