Llosgydd Biomas y Barri

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:11, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, am eich datganiad ar yr effaith amgylcheddol a sut y caiff ei hasesu. A gaf fi wneud pwynt ychwanegol y gobeithiaf y byddwch yn ei ystyried neu'n sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ystyried, sef y ffaith bod rhai trigolion wedi adrodd bod llawer o sŵn a mwg y tu allan i'r amser profi y cytunwyd arno, sef rhwng 9 a.m. a 6 p.m.? Felly, a allwch ymchwilio i weld a ydynt yn cadw at yr amseroedd profi hynny? Diolch.