Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch i'r Aelod am barhau i ofyn cwestiynau ynglŷn â'r maes hwn, a gwn ei fod o ddiddordeb i lawer o'i hetholwyr. Mae ein llythyr at y datblygwyr yn nodi sut roeddem yn bwriadu dosbarthu'r prosiect o fewn y categorïau a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017. Yn dilyn yr ymateb hwn gan y datblygwr, byddwn yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r penderfyniad sgrinio hwn ynglŷn â'r cais cynllunio sydd gerbron Cyngor Bro Morgannwg ar hyn o bryd, gan sicrhau ei fod yn gadarn ac yn ystyried y gyfraith achosion ddiweddaraf.
Fe sonioch hefyd am Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—mae Cyfoeth Naturiol Cymru a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cyfarfod ddwywaith i archwilio a mireinio'r ffordd orau o ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn datblygu meysydd polisi sy'n aml yn gymhleth a thechnegol, megis trwyddedu amgylcheddol. Bydd yr adolygiad yn ystyried achosion hanesyddol, gan y gallai ystyried unrhyw achosion cyfredol, fel y mae pethau, ragfarnu'r broses o wneud penderfyniadau.