Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 21 Mawrth 2018.
A gaf fi gefnogi sylwadau Jane Hutt i chi fod arnom angen asesiad o'r effaith amgylcheddol? Mae Cyngor Bro Morgannwg o dan arweiniad y Torïaid wedi apelio am asesiad hefyd. Ceir unfrydedd gwleidyddol llwyr ynglŷn â hyn. Os ewch i lawr i'r Barri a siarad ag unrhyw un, yn aml iawn y peth cyntaf y byddant yn ei grybwyll yw'r gwaith llosgi hwn a'i faint anferthol. Mae arnom angen yr asesiad ac mae arnom angen i Cyfoeth Naturiol Cymru fonitro pethau'n fanwl iawn bellach, oherwydd pan fo'r prosesau democrataidd lleol yn cael eu diystyru yn y broses gynllunio, fel sydd wedi digwydd yn yr achos hwn wrth gwrs, mae'n rhaid rhoi sicrwydd i bobl fod y camau rheoleiddio mwyaf effeithiol a gwyliadwrus ar waith.