Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 21 Mawrth 2018.
Mae'r Aelod yn gywir fod angen rhoi sicrwydd i bobl fod y camau rheoleiddio mwyaf effeithiol a gwyliadwrus ar waith. Gwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bro Morgannwg yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â phryderon pobl y Barri, yn enwedig, fel y clywsom eisoes heddiw, yn ystod y gwaith a wneir cyn comisiynu'r cyfleuster biomas. Ychydig iawn y gallaf ei ychwanegu at yr hyn rwyf wedi'i ddweud eisoes o ran ble rydym wedi cyrraedd gyda'r asesiad o'r effaith amgylcheddol, ond nid ydym yn bwriadu gosod terfyn amser mympwyol ar gyfer gwneud y penderfyniad terfynol, gan fod y penderfyniad, fel y byddwch yn deall, yn galw am ystyriaeth ofalus a llawn o'r holl faterion. Ond rwy'n ymwybodol iawn o bryderon pobl.