Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 21 Mawrth 2018.
Cefais drafodaeth gyda'r prif swyddog milfeddygol ynglŷn â phydredd Alabama y bore yma. Fel y dywedais, nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hyn, ond yn amlwg, rydym yn awyddus iawn i ddysgu o'r ymchwil sy'n mynd rhagddo. Ystyrir mai clefyd y gaeaf ydyw ac mae'n gysylltiedig â thywydd gwlyb, felly gofynnais y cwestiwn, 'Wel, os cawn haf gwlyb, a ydym yn wynebu'r un sefyllfa?' Fel y dywedwch, mae gennym—efallai mai ymwybyddiaeth gyhoeddus ynglŷn â hyn sydd i gyfrif, ond yn sicr, ymddengys bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion. Dywedodd y prif swyddog milfeddygol y gall fod yn fwy cyffredin mewn ardaloedd corsiog gwlyb, ac mae'n bwysig iawn yn y gaeaf, os ydych yn cerdded eich ci mewn mannau corsiog gwlyb, eich bod yn ei sychu ar ôl hynny. Yn yr haf, er y gallem gael tywydd gwlyb, mae'n debyg y byddai'r ci'n sychu ei hun i raddau mwy. Aseswyd y clefyd gan y grŵp asesu risg trawslywodraethol. Nid yw'n drosglwyddadwy i bobl, a chredaf ei bod yn bwysig iawn nodi hynny, ond credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn monitro datblygiadau, ac rydym yn gwneud hynny drwy archwiliadau milfeddygol preifat a'r ymchwil sy'n mynd rhagddo.