Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 21 Mawrth 2018.
Cafwyd un o'r achosion diweddar o bydredd Alabama, sy'n glefyd angheuol mewn cŵn, mewn practis milfeddygol yn fy etholaeth i, ar ôl bod yn cerdded mewn coedwig ger fy nghartref ym Mhenygraig. Aethpwyd â chi i bractis Tonypandy o Glinig Milfeddygol Trefforest gyda'r wlserau sy'n gysylltiedig â phydredd Alabama, ac fel cynifer o gŵn sydd â'r clefyd hwn, bu farw'r ci. Gan nad yw gwyddonwyr yn gwybod beth sy'n achosi'r clefyd hwn, ni wyddant sut i'w drin, ac mae llawer o berchnogion cŵn yn pryderu ynglŷn â'r clefyd a'r llu o achosion a gofnodwyd yn ddiweddar. A allwch roi unrhyw gyngor i berchenogion cŵn yn y Rhondda a'r tu hwnt ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud i leihau'r perygl y bydd eu hanifeiliaid anwes yn dal pydredd Alabama? Ac a allwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn mynd ati'n weithredol i drechu'r clefyd hwn?