Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch. Nid yw pydredd Alabama, nad yw'n effeithio ar iechyd y cyhoedd, yn glefyd hysbysadwy nac adroddadwy. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw rheoli'r clefyd. Dylai perchnogion cŵn sy'n pryderu ynglŷn â hyn ymgynghori â'u milfeddyg preifat, ac rydym yn monitro datblygiadau wrth i ymchwil ac archwiliadau milfeddygol preifat fynd rhagddynt.