Rhywogaethau Planhigion nad ydynt yn Gynhenid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:05, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gwn eich bod wedi mynd ati'n ddiflino i gynrychioli eich etholwyr a'ch cymunedau wrth godi'r mater hwn, ac rydych yn llygad eich lle, mae'n achosi cryn ddifrod i'n hadeiladau a'n hamgylchedd lleol. Sylwaf fy mod yn cael y geiriau ffurfiol ar gyfer y rhain—mae'n cymryd peth amser i arfer ag ynganu rhai ohonynt. Rwy'n dysgu'n gyflym yn hynny o beth.

Gofynnoch am y data o ran y treial. Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe yn dadansoddi'r data o'u treial dwy flynedd cychwynnol ar reolaeth gemegol, gyda'r nod o gynhyrchu cyngor technegol i helpu i fynd i'r afael â chlymog Japan. Edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad terfynol, ac rwy'n siŵr fod yr Aelod yn edrych ymlaen at hynny hefyd. Gallaf gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i'r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Ryngwladol er mwyn parhau â'r prosiect llyslau ar gyfer 2017-18.