Rhywogaethau Planhigion nad ydynt yn Gynhenid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:07, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r clymog Japan bondigrybwyll yn ymestyn y tu hwnt i Ddwyrain Abertawe ac i rannau eraill o Orllewin De Cymru, gan gynnwys ardaloedd o amgylch rheilffyrdd ac ardaloedd a nodwyd ar gyfer datblygu go helaeth yn y cynllun datblygu lleol drafft. Tybed a allwch ymrwymo heddiw i siarad â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ar draws y portffolios perthnasol i geisio nodi beth fyddai'r gost, yn enwedig i gynlluniau metro bae Abertawe, fel ag y maent, ac i'r cynlluniau o dan y cynllun datblygu lleol, pe na bai malltod y clymog yn cael ei liniaru. Credaf fod yna gryn bryder ar hyn o bryd, yn arbennig o amgylch rheilffyrdd, yn ymwneud â chynlluniau posibl ar gyfer metro, oherwydd mae'n rhaid cael gwared ar y pla hwnnw'n gyntaf cyn y gallwn feddwl am ehangu'r rhwydwaith rheilffyrdd. Diolch.