Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch, Weinidog. A wnewch chi gadarnhau y byddwch yn mynd ar drywydd hynny? Fe ddywedoch eich bod wedi cael ymateb gan y cwmni. Oherwydd, yn amlwg, mae pobl y Barri yn awyddus i wybod a fyddwch yn gofyn am asesiad o'r effaith amgylcheddol ar y cais cynllunio diweddaraf hwn i Gyngor Bro Morgannwg. Rwy'n deall hefyd fod asesiadau effaith amgylcheddol yn ofynnol yn awtomatig pan fydd prosiect yn cael ei ddosbarthu'n ddatblygiad diwydiant trymach atodlen 1, yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017, pan fo gan safle gapasiti o fwy na 100 tunnell y dydd, gan gynnwys llosgi gwastraff nad yw'n beryglus, a rhagwelir y bydd llosgydd biomas y Barri yn llosgi 200 tunnell y dydd. A all y Gweinidog gadarnhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys llosgydd biomas y Barri yn adolygiad comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol o'r broses drwyddedu amgylcheddol?