Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 21 Mawrth 2018.
Wel, roeddwn yn mynd i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ond rwyf ychydig yn amharod i wneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar fod Simon Thomas unwaith eto wedi dangos y pwysigrwydd mawr y mae'r Cynulliad yn ei roi i sicrhau bod yr amgylchedd yng Nghymru yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, oherwydd, fel Llywodraeth, rydym yn cytuno'n llwyr â'r teimladau sy'n sail i'r gwelliant. Rydym wedi bod yn glir ac yn gyson yn ein neges na ddylai Brexit arwain at lastwreiddio unrhyw hawliau sy'n deillio o'n haelodaeth o'r UE ar hyn o bryd na'r safonau sy'n gymwys ar draws yr aelod-wladwriaethau. Mae hynny'n cynnwys safonau amgylcheddol.
Cyfeiriais ddoe, yn ystod y ddadl Cyfnod 2, at ein record brofedig ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n darparu fframwaith pwysig ar gyfer gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, darn pwysig o ddeddfwriaeth, yn llywio ein defnydd o bwerau yn y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Mae'n gosod yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein Llywodraeth yma yng Nghymru. Pwysleisiaf unwaith eto sut y mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, eisoes wedi egluro ein bod ymrwymo i gynnal a gwella safonau amgylcheddol, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gennym hyd yn hyn. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i'r amgylchedd yn glir.
Er ein bod yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i'r egwyddorion amgylcheddol a nodwyd yng ngwelliant Simon Thomas, rhaid inni ystyried y gwelliant yng nghyd-destun y Bil sydd ger ein bron heddiw a chydnabod y goblygiadau a fyddai i basio'r gwelliant. Mae'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd eisoes yn nodi sut y mae gwahanol fathau o gyfraith yr UE i gael eu trosi i'n system cyfraith ddomestig a chael ei diogelu ynddi ar ôl inni adael yr UE. Oherwydd nad oes gan egwyddorion amgylcheddol statws neu effaith gyfreithiol gyfun, bydd y Bil hwn yn gymwys mewn ffordd wahanol iddynt, yn dibynnu ar y mater dan sylw. Er enghraifft, mae'r egwyddor ragofalus, fel egwyddor gyffredinol yng nghyfraith yr UE, yn cael effaith o dan adran 7 o'r Bil. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl gyfraith sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â hynny. Bydd yr egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu yn ddarostyngedig i adran 5 o'r Bil, a bydd yn parhau i fod yn rhan o'r gyfraith ddomestig yng Nghymru ar ôl ymadael.
Mae'r gwelliant y mae Simon Thomas wedi'i gyflwyno heddiw yn wahanol i'r gwelliant a gyflwynodd yng nghyfnod 2 mewn un ffordd bwysig—ac fe gyfeirioch chi'n benodol at hyn. Mae'n cyfeirio at lywodraethu amgylcheddol a'r swyddogaethau a gyflawnir ar hyn o bryd gan sefydliadau'r UE mewn perthynas â diogelu'r amgylchedd. A gaf fi dawelu meddwl yr Aelodau ein bod yn gwbl ymrwymedig—er nad wyf yn sicr fy mod yn tawelu meddwl Neil Hamilton, ond gallaf sicrhau pawb arall—ein bod yn gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr nad ydym yn gadael unrhyw fylchau o ran diogelwch amgylcheddol ar ôl inni adael yr UE? Mae er budd pawb ohonom i sicrhau, er enghraifft, fod unrhyw ddifrod amgylcheddol yn parhau i gael ei fonitro ac y cymerir camau i orfodi'r gyfraith. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r holl bwerau sydd eu hangen i drosglwyddo unrhyw swyddogaethau presennol sy'n ymwneud â phlismona, monitro neu orfodi holl gyfraith UE ar yr amgylchedd.
Lywydd, prif ddiben y Bil hwn yw llenwi'r bylchau deddfwriaethol a fydd yn codi o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r amgylchedd. Bil yw hwn a luniwyd i ddarparu parhad deddfwriaethol wrth inni adael yr UE. Fe'i cyflwynwyd i'r Cynulliad hwn drwy'r weithdrefn frys, ac fel y cyfryw, ychydig iawn o amser a fu ar gyfer craffu ar faterion newydd sy'n dod i'r amlwg. Nid dyma'r cyfrwng i ddarparu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr amgylchedd ar ôl Brexit, sef yr hyn y mae'r gwelliant hwn yn ceisio ei wneud. [Torri ar draws.] Wel, gallaf glywed David Melding yn mwmian o'r gwaelod. Roeddwn yn falch o'i weld yn cymryd rhan yn y ddadl heddiw—fe gymeraf ymyriad.