– Senedd Cymru am 5:33 pm ar 21 Mawrth 2018.
Ac felly mae’r grŵp cyntaf o welliannau i’w hystyried yn ymwneud ag egwyddorion a llywodraethu amgylcheddol. Gwelliant 9 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp, ac rydw i’n galw ar Simon Thomas i gynnig y gwelliant ac i siarad iddo. Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i’n cynnig gwelliant 9. Nid ydw i’n ymddiheuro am ddychwelyd at faes y gwnaethom ni drafod ddoe, ond gwnaf i ddim ailadrodd popeth y gwnaethom ni drafod ddoe chwaith, ond jest i bwysleisio pam rŷm ni wedi dychwelyd at hyn. Fel y bydd yr Aelodau yn cofio, gobeithio, er bod llawer wedi digwydd ers ddoe, nid yw’r Bil fel y mae e ar hyn o bryd yn cynnwys cyfeiriad penodol at rai o’r egwyddorion amgylcheddol sydd yn sail i’r ddeddfwriaeth Ewropeaidd bresennol.
Nawr, dadl y Llywodraeth ddoe oedd bod gyda ni ddeddfwriaeth yng Nghymru naill ai'n deillio o’r Undeb Ewropeaidd neu ddeddfwriaeth uniongyrchol Gymreig a oedd wedi ei llunio yng nghyd-destun deddfwriaeth Ewropeaidd a oedd yn gwneud y tro, ac nid ydw i’n siŵr bod hwnna yn ddigonol, a dweud y gwir. Ac, os liciwch chi, mae cywirdeb y safle rydw i’n ei gymryd ac mae Plaid Cymru yn ei gymryd fan hyn wedi cael ei ategu ond hanner awr yn ôl yn Senedd yr Alban, lle mae cynnig tebyg i hwn wedi cael ei basio gan Senedd yr Alban, yn dodi egwyddorion amgylcheddol ar wyneb eu Bil nhw yn Senedd yr Alban. A phwy oedd yn cynnig y gwelliant? Aelod o’r Blaid Lafur—aelod o’r Blaid Lafur yn erbyn Llywodraeth yr SNP yn yr Alban. Felly, mae gyda chi’r Blaid Lafur yn yr Alban yn moyn rhoi egwyddorion amgylcheddol ar wyneb eu Bil nhw, ac mae gyda chi’r Blaid Lafur fan hyn yn gwrthod gwelliant sy’n gwneud yr un peth. Wel, nid oes cysondeb yn fanna. Felly, nid wyf yn ymddiheuro i ddychwelyd at y pwynt yma.
Mae’r gwelliant sydd ger eich bron heddiw yn wahanol i’r un oedd gyda chi ddoe—os rhywbeth, mae’n well. Wrth gwrs, rŷm ni wedi cael o leiaf 24 awr i feddwl amdano fe. Nid yw’n well o ran y Llywodraeth achos byddan nhw’n gwrthod hwn, hyd yn oed yn fwy cadarn, mewn ffordd. Ond mae rhan y gwelliant sydd yn wahanol y tro yma, cymal 4, yn ymwneud â rhoi dyletswydd ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i geisio gwneud yr hyn y gwnes i gyfeirio ato ddoe, ond nad oedd yn rhan o’r gwelliant, sef ceisio cau'r bwlch llywodraethiant yn y materion hyn. Fel rŷm ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel dywedais i ddoe, ni fydd hawl uniongyrchol nawr i ddinasyddion yng Nghymru fynd yn syth at Lys Cyfiawnder Ewrop ynglŷn â rhai o’r materion hyn, ac nid ydym ni'n gwybod beth fydd Llywodraeth San Steffan yn rhoi yn ei le. Nid ydym yn gwybod beth fydd yn cael ei ddodi yn ei le. Ac felly mae’r gwelliant yma wedi cael un cymal wedi’i ychwanegu ato fe sydd yn gwneud yn siŵr bod y ffwythiannau hynny a oedd yn arfer cael eu gwneud gan y Comisiwn a’r Llys Cyfiawnder Ewropeaidd yn rhai sydd yn gorfod parhau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru, a bod dyletswydd ar Weinidogion y Llywodraeth i geisio gwneud hynny. Nid ydym yn gallu clymu achos rŷm ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae’r Bil yma ond yn Fil parhad; nid yw e’n gallu ychwanegu rhywbeth sydd ddim yno eisoes. Ond y pwynt rŷm ni’n ei wneud, wrth gwrs, yw ei fod e yno eisoes. Mae gyda ni eisoes y mynediad yma at y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop.
Holais i heddiw gwestiwn i Lesley Griffiths yn uniongyrchol ar hyn—y gŵyn sydd gan Afonydd Cymru, y chwe ymddiriedolaeth afonydd yng Nghymru, am gyflwr afonydd Cymru. Mae gyda nhw hawl i fynd at y Comisiwn. Mae’n siŵr bod gan y Llywodraeth amddiffyniad da, ond mae gyda nhw hawl i fynd at y Comisiwn. Pan fyddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw e’n glir beth fydd yr hawliau hynny. Felly, mae’r gwelliant yna yn cau'r bwlch, i ryw raddau, ond yn briodol, ac yn ailddatgan yr egwyddorion amgylcheddol y bues i’n eu trafod ddoe.
Jenny Rathbone. [Torri ar draws.] Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n mabwysiadu fy rôl draddodiadol o fod yn gymydog cyfeillgar, cynhennus i Simon Thomas yn yr achos penodol hwn—nid fy mod yn gwrthwynebu, yn amlwg, cael lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol. Byddai unrhyw un yn ei iawn bwyll eisiau hynny; rydym i gyd yn byw yn y byd hwn, ac rydym i gyd eisiau cael ein hamddiffyn rhag y niwed a ddaw o lygredd. Ond rwyf ychydig yn bryderus am natur yr egwyddor ragofalus wrth ei mewnosod yn y gyfraith. Mae hyn yn rhywbeth a fewnosodwyd yn y gyfraith Ewropeaidd o ganlyniad i gytundeb Maastricht yn 1992, a'r hyn y credaf y mae'n ceisio ei wneud, mewn gwirionedd, yw cael gwared ar y broses bwyso a mesur a ddylai fod wrth wraidd yr hyn a wnawn wrth benderfynu ar bolisi amgylcheddol. Gall hyn greu nifer o broblemau oherwydd, yn y lle cyntaf, wrth gwrs, gall rwystro arloesedd os caiff ei gymhwyso'n rhy llym. Pe baem wedi cymhwyso'r rheol hon yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, efallai na fyddwn byth wedi gweld injans stêm, neu reilffyrdd yn ymddangos. Ac yn wir, ni fyddem byth wedi cael gwared ar y dyn gyda'r faner goch a arferai gerdded o flaen ceir modur tan 1896, ac o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth i'w ddileu mae gennym y daith geir o Lundain i Brighton bob blwyddyn. Mae ofn yr anhysbys, wrth gwrs, yn broblem—neu fe all fod. A dylem bob amser fod eisiau lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol wrth gwrs, ond dylem bwyso a mesur hynny yn erbyn y gost o wneud dim, a chost dewisiadau amgen sydd ar gael. Felly, os cymhwyswn yr egwyddor hon heb ystyried hynny, efallai ein bod mewn gwirionedd yn gwneud pethau'n waeth yn hytrach nag yn well.
Cymerwch un enghraifft yn unig: os ydym ni, fel y maent wedi'i wneud yn yr Almaen yn awr, yn penderfynu rhoi diwedd ar gynhyrchiant ynni niwclear—mae hynny wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar danwydd ffosil. Ac os ydych yn derbyn y damcaniaethau ynghylch cynhesu byd-eang a achosir gan bobl, gallai hynny, wrth gwrs, gynhyrchu canlyniad gwaeth mewn termau amgylcheddol, nid un gwell. Yn wir, mae'r Almaen yn adeiladu nifer fawr o orsafoedd pŵer glo newydd tra'n cau ei gynhyrchiant niwclear, a hefyd yn dod yn fwy dibynnol—ac mae hwn yn fater geowleidyddol arall o ddiddordeb mawr ar hyn o bryd—ar Rwsia am gyflenwadau nwy. Felly, mae yna bob math o resymau pam na ddylem gymhwyso'r egwyddor ragofalus yn rhy gadarn o bosibl. Pam y mae'n fwy diogel neu'n fwy rhagofalus i ganolbwyntio ar niweidiau posibl gweithgareddau neu dechnolegau newydd, heb gyfeirio at y gweithgareddau neu'r technolegau y byddent yn eu disodli? Nid oes unrhyw reswm a priori dros dybio bod technolegau mwy newydd neu risgiau llai hysbys yn fwy peryglus na thechnolegau hŷn neu fygythiadau cyfarwydd.
Mae cymhwyso'r egwyddor hon yn yr Unol Daleithiau wedi arwain at rai achosion rhyfedd iawn yn wir. Yn wyneb ansicrwydd gwyddonol, nid yw rhai fformwleiddiadau yn pennu unrhyw drothwy isaf o hygrededd neu risg sy'n gweithredu fel amod sbarduno, fel bod unrhyw awgrym y gallai cynnyrch neu weithgarwch arfaethedig niweidio iechyd neu'r amgylchedd yn ddigon i weithredu'r egwyddor. Cafwyd un achos diddorol rhwng Sancho v. Adran Ynni yr Unol Daleithiau, lle y dechreuodd ymgyfreithiwr achos cyfreithiol, a oedd yn cynnwys y gofid poblogaidd y byddai'r peiriant gwrthdaro hadronau mawr yn y Swistir yn peri dinistr y ddaear drwy ffurfio twll du. Hynny yw, dechreuwyd achos cyfreithiol go iawn yn ei gylch. Yn ffodus, cafodd ei daflu allan gan y barnwr yn y pen draw. Ond pan fyddwn yn cyflwyno egwyddorion eang o'r math hwn sy'n gallu arwain at ymgyfreitha cymhleth weithiau, rydym yn codi ysgyfarnog ac nid ydym yn gwybod ble mae ei ben draw. Felly, er fy mod yn credu bod rhaid parhau i roi sylw priodol i'r amgylchedd, mae'n rhaid ei wneud, bob amser, ar sail gwyddoniaeth a chydbwyso risg.
Felly, er nad wyf yn gwrthwynebu'r egwyddorion y mae gwelliant Simon Thomas yn ceisio gwneud inni ganolbwyntio arnynt, pe baem yn ei dderbyn, rwy'n credu y byddai'n gosod cyfrifoldeb rhy feichus ar y Llywodraeth ac mewn gwirionedd, ar un ystyr, byddai'n ein hamddifadu ni fel deddfwyr o un o'n swyddogaethau sylfaenol, sef bod yn grŵp beirniadol sy'n cydbwyso ac sydd, yn y pen draw, yn enw'r bobl, yn penderfynu beth sydd orau ar gyfer ein gwlad.
Nid oes gennyf broblem o gwbl gyda'r egwyddorion fel y maent wedi'u hamlinellu yn y gwelliant, ac fel y mae wedi'i ddrafftio, ac i'r graddau hynny, o ran y modd y mae wedi'i ddrafftio, mae'n welliant da. Ond mae'n welliant cwbl amhriodol yn y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth.
Rhaid imi ddweud, o ran fy safbwynt personol, pe bai hwn yn welliant a ddaeth gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, byddem wedi bod eisiau ystyried materion sy'n codi—byddem wedi gorfod eu hystyried—ynghylch y goblygiadau a sut y mae'n ymwneud â rhai o'r materion cymhwysedd. Hoffwn ddweud nad yw ein Bil ni yr un fath â Bil yr Alban; nid copïau o'i gilydd ydynt. Mae'r drafftio'n wahanol iawn. Yn wir, credaf fod y modd y mae ein Bil ni wedi'i ddrafftio gryn dipyn yn well na Bil yr Alban mewn gwirionedd. Credaf ei fod yn fwy cynhwysfawr na Bil yr Alban, ond yr hyn y bydd sefydlu'r egwyddorion penodol hyn yn y ffordd arbennig hon yn ei wneud fydd ei wneud yn gymwys mewn meysydd a allai arwain at ganlyniadau annisgwyl, yn enwedig mewn perthynas â meysydd lle y gallai fod mannau lle nad yw'n amlwg a ydynt yn faterion ar ein cyfer ni neu'n faterion ar gyfer Llywodraeth y DU, neu'r ddwy, os ydynt yn feysydd lle nad yw'r cymhwysedd yn amlwg. Pe bai hynny'n wir, a phe bai'r mater hwn wedyn yn cael ei gyfeirio, mewn rhyw ffordd, i'r Goruchaf Lys, byddent yn sicr yn dod yn faterion arwyddocaol iawn.
Nawr, gallem yn hawdd ennill y rheini, ond yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod hwn yn Fil mor bwysig yn gyfansoddiadol i Gymru fel nad wyf yn barod i gefnogi gambl—
Rydym yn cychwyn ar y Bil cyfansoddiadol enfawr hwn gyda mater o egwyddor pwysig a osodwyd yn fersiwn yr Alban o, wel, eu Bil, ac rydych chi'n dweud yn awr nad oes gennym amser i archwilio'r pethau hyn yn iawn a'u hystyried yn llawn. Felly, onid yw'r weithdrefn gyfan hon yn gwbl ffug?
Wel, nac ydy. Mewn gwirionedd, David, fel y gwyddoch yn dda, yr hyn rwy'n ei wneud yw sôn am welliant a gyflwynwyd nad yw wedi'i godi'n flaenorol, gwelliant y gellid ei godi ar unrhyw adeg mewn unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, ac rwyf hefyd yn eich atgoffa, wrth gwrs, fod Bil Cymru yn wahanol i Fil yr Alban ac mae wedi mabwysiadu dull gwahanol o weithredu. Oherwydd pwysigrwydd y mater cyfansoddiadol i'r Cynulliad hwn ac i'r ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy San Steffan, yr hyn rwy'n ei ddweud mewn gwirionedd yw y byddai'n fyrbwyll rhoi hynny ar y bwrdd mewn gwirionedd a gamblo yn y modd penodol hwnnw gyda statws cyfansoddiadol y Bil hwn. Am y rheswm hwnnw, rwy'n credu ei fod yn welliant amhriodol ac yn un y buaswn yn ei wrthwynebu.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Wel, roeddwn yn mynd i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau, ond rwyf ychydig yn amharod i wneud hynny. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar fod Simon Thomas unwaith eto wedi dangos y pwysigrwydd mawr y mae'r Cynulliad yn ei roi i sicrhau bod yr amgylchedd yng Nghymru yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n ddiolchgar am hynny, oherwydd, fel Llywodraeth, rydym yn cytuno'n llwyr â'r teimladau sy'n sail i'r gwelliant. Rydym wedi bod yn glir ac yn gyson yn ein neges na ddylai Brexit arwain at lastwreiddio unrhyw hawliau sy'n deillio o'n haelodaeth o'r UE ar hyn o bryd na'r safonau sy'n gymwys ar draws yr aelod-wladwriaethau. Mae hynny'n cynnwys safonau amgylcheddol.
Cyfeiriais ddoe, yn ystod y ddadl Cyfnod 2, at ein record brofedig ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n darparu fframwaith pwysig ar gyfer gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, darn pwysig o ddeddfwriaeth, yn llywio ein defnydd o bwerau yn y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru). Mae'n gosod yr amgylchedd a datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein Llywodraeth yma yng Nghymru. Pwysleisiaf unwaith eto sut y mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, eisoes wedi egluro ein bod ymrwymo i gynnal a gwella safonau amgylcheddol, a byddwn yn parhau i adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gennym hyd yn hyn. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y Llywodraeth i'r amgylchedd yn glir.
Er ein bod yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i'r egwyddorion amgylcheddol a nodwyd yng ngwelliant Simon Thomas, rhaid inni ystyried y gwelliant yng nghyd-destun y Bil sydd ger ein bron heddiw a chydnabod y goblygiadau a fyddai i basio'r gwelliant. Mae'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd eisoes yn nodi sut y mae gwahanol fathau o gyfraith yr UE i gael eu trosi i'n system cyfraith ddomestig a chael ei diogelu ynddi ar ôl inni adael yr UE. Oherwydd nad oes gan egwyddorion amgylcheddol statws neu effaith gyfreithiol gyfun, bydd y Bil hwn yn gymwys mewn ffordd wahanol iddynt, yn dibynnu ar y mater dan sylw. Er enghraifft, mae'r egwyddor ragofalus, fel egwyddor gyffredinol yng nghyfraith yr UE, yn cael effaith o dan adran 7 o'r Bil. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl gyfraith sy'n deillio o'r UE gael ei dehongli yn unol â hynny. Bydd yr egwyddor mai'r llygrwr sy'n talu yn ddarostyngedig i adran 5 o'r Bil, a bydd yn parhau i fod yn rhan o'r gyfraith ddomestig yng Nghymru ar ôl ymadael.
Mae'r gwelliant y mae Simon Thomas wedi'i gyflwyno heddiw yn wahanol i'r gwelliant a gyflwynodd yng nghyfnod 2 mewn un ffordd bwysig—ac fe gyfeirioch chi'n benodol at hyn. Mae'n cyfeirio at lywodraethu amgylcheddol a'r swyddogaethau a gyflawnir ar hyn o bryd gan sefydliadau'r UE mewn perthynas â diogelu'r amgylchedd. A gaf fi dawelu meddwl yr Aelodau ein bod yn gwbl ymrwymedig—er nad wyf yn sicr fy mod yn tawelu meddwl Neil Hamilton, ond gallaf sicrhau pawb arall—ein bod yn gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr nad ydym yn gadael unrhyw fylchau o ran diogelwch amgylcheddol ar ôl inni adael yr UE? Mae er budd pawb ohonom i sicrhau, er enghraifft, fod unrhyw ddifrod amgylcheddol yn parhau i gael ei fonitro ac y cymerir camau i orfodi'r gyfraith. Mae'r Bil hwn yn rhoi'r holl bwerau sydd eu hangen i drosglwyddo unrhyw swyddogaethau presennol sy'n ymwneud â phlismona, monitro neu orfodi holl gyfraith UE ar yr amgylchedd.
Lywydd, prif ddiben y Bil hwn yw llenwi'r bylchau deddfwriaethol a fydd yn codi o ganlyniad i'r DU yn gadael yr UE, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r amgylchedd. Bil yw hwn a luniwyd i ddarparu parhad deddfwriaethol wrth inni adael yr UE. Fe'i cyflwynwyd i'r Cynulliad hwn drwy'r weithdrefn frys, ac fel y cyfryw, ychydig iawn o amser a fu ar gyfer craffu ar faterion newydd sy'n dod i'r amlwg. Nid dyma'r cyfrwng i ddarparu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr amgylchedd ar ôl Brexit, sef yr hyn y mae'r gwelliant hwn yn ceisio ei wneud. [Torri ar draws.] Wel, gallaf glywed David Melding yn mwmian o'r gwaelod. Roeddwn yn falch o'i weld yn cymryd rhan yn y ddadl heddiw—fe gymeraf ymyriad.
Mae gennych hyfdra yn awr fel Llywodraeth i wneud rhinwedd o'r ffaith eich bod wedi defnyddio'r weithdrefn frys, nad yw'n golygu, wrth gwrs, eich bod yn gallu craffu ar bethau'n iawn. Dyna rydych newydd ei ddweud wrth Simon Thomas. Hynny yw, mae'n draed moch.
Wel, credaf fod hynny'n ddiddorol iawn, oherwydd, wrth gwrs, y rheswm rydym yn defnyddio'r weithdrefn frys yw'r traed moch y mae'r DU wedi ei wneud wrth negodi ein hymadawiad â'r UE, a dyna sydd wedi ein gyrru i'r sefyllfa hon.
Lywydd, mae yna nifer o faterion eraill wedi llywio penderfyniad y Llywodraeth i beidio â derbyn y gwelliant hwn. Yn gyntaf, rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd; nid dyma'r unig faes cyfraith pwysig a lywodraethir ar lefel yr UE. Pe baem yn derbyn y gwelliant hwn, byddem yn rhoi amlygrwydd i'r amgylchedd y tu hwnt i nifer o faterion pwysig iawn eraill, megis hawliau cymdeithasol, hawliau gweithwyr a diogelu enwau bwyd, i roi rhai enghreifftiau'n unig. Nid ydym yn credu y byddai'n briodol dechrau nodi rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o faterion pwysig, gan y byddai'n dechrau bwrw amheuaeth ar gwmpas y pwerau a gynhwysir yn y Bil, ac rwy'n siŵr nad dyna yw bwriad y gwelliant.
Yr ail fater sy'n rhaid i mi dynnu sylw ato yw goblygiadau pellgyrhaeddol y gwelliant. Byddai'n berthnasol i'r holl swyddogaethau o dan y Bil, nid yn unig y rheoliadau a wneir o dan adrannau 3, 4 a 5. Byddai'n cynnwys swyddogaethau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Bil, megis y swyddogaeth i roi cydsyniad i is-ddeddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Llywodraeth y DU o dan adrannau 14 a 15, pwerau i bennu ffioedd a thaliadau a'r pŵer i bennu diwrnod ymadael. Mater sy'n peri mwy o bryder, fodd bynnag, yw ei gymhwysiad i adran 4 y Bil a'r pŵer i ailddatgan deddfiadau sy'n deillio o'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys swyddogaethau gweithredol a deddfwriaethol sy'n cwmpasu ystod eang iawn o bynciau. Pe bai'r gwelliant yn cael ei basio, byddai'r swyddogaethau hyn oll, am y tro cyntaf, yn destun dyletswydd newydd i roi sylw i'r egwyddorion hyn. Ni fyddai'r egwyddorion a'r dyletswyddau llywodraethu hyn yn gyfyngedig i'r camau rydym yn eu cymryd yn awr wrth i'r DU adael yr UE, ond byddent yn gymwys ymhell i'r dyfodol. Mae'r gwelliant hwn yn mynd ymhell y tu hwnt i ddiben datganedig y Bil hwn, sef sicrhau parhad. Oherwydd ein bod yn ystyried y Bil hwn drwy ddefnyddio'r weithdrefn frys, nid ydym wedi cael y cyfle arferol i graffu ar y gwelliant hwn yn briodol nac ystyried ei effaith ar ymestyn cwmpas a diben y Bil.
Y trydydd peth yw ei fod yn creu llwybr o her gyfreithiol i'r modd yr arferir pwerau o dan y Bil, ond hefyd mewn perthynas â phwerau presennol a gynhwysir mewn ystod eang iawn o ddeddfiadau. Byddai'r risg o her yn codi mewn perthynas â methiannau posibl i lynu at yr hyn sy'n gyfres eang o egwyddorion a nodir yn y gwelliant. Nid ydym wedi gallu dadansoddi beth yw goblygiadau llawn y gwelliant hwn a sut y mae'n effeithio ar bob un o'r swyddogaethau sydd eisoes yn bodoli ar draws yr ystod eang o bynciau y byddai'n berthnasol iddynt, nid yn unig yn y tymor byr, ond dros flynyddoedd lawer. Felly, ni allwn ei gefnogi. [Torri ar draws.] Os felly, David, tybed sut rydych yn teimlo am y Bil ymadael â'r DU.
Rwyf am gloi drwy roi'r ymrwymiad hwn i'r Aelodau: bydd y Llywodraeth hon yn manteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i gynnwys yr egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith a chau'r bwlch llywodraethu. Buaswn yn gobeithio, ar sail yr ymrwymiad hwnnw, ac o wybod bod y Llywodraeth yn cefnogi'r teimladau sy'n sail i hyn yn llwyr, y bydd Simon Thomas yn teimlo y gall dynnu ei welliant yn ôl. Diolch.
Simon Thomas i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau gyda'r cadarnhaol a dweud fy mod yn croesawu'r datganiad gwleidyddol, os caf ei roi felly, gan arweinydd y tŷ, yn dweud na fydd safonau amgylcheddol yn cael eu gwanhau a'i bwriad—yr hyn y mae hi newydd orffen drwy ei ddweud—i chwilio am gyfle deddfwriaethol cynnar—ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd mae'n debyg—i ailddatgan rhai o'r egwyddorion hyn?
Rwy'n falch ein bod wedi ailgyflwyno hyn. Mae wedi caniatáu i syniadau newydd ddod i mewn i'r ddadl; nid wyf yn cytuno â phob un ohonynt, ond maent yn rhai newydd o leiaf. Rhaid imi ddweud wrth Neil Hamilton nad wyf yn credu ei fod yn deall yn iawn sut y defnyddir egwyddor ragofalus yr UE. Roedd y mwyafrif o'i enghreifftiau'n dod o America, lle mae car hunan-yrru Uber newydd daro cerddwr a'i ladd, wrth gwrs. Felly, mae'n bosibl fod yna ddiffyg egwyddor ragofalus yn Arizona—mae hynny'n sicr.
Mae angen inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd gennym yma. Nid yw'r egwyddor ragofalus yn atal datblygu, neu fel arall, ni fyddai Jane Hutt yn gofyn cwestiynau ynglŷn â llosgydd yn y Barri. Fel arall, ni fyddem yn gofyn cwestiynau am draffordd M4 newydd. Ni fyddem yn gofyn cwestiynau am goetir hynafol yn Llaneurgain yn cael ei ddymchwel ar gyfer ffordd newydd arall. Nid yw'r egwyddor ragofalus yn rhwystro datblygu. Mae'n gwneud i chi feddwl am ddatblygu yng ngoleuni cenedlaethau'r dyfodol, a dyna yw ein Deddf sylfaenol ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n ymgorffori llawer o'r egwyddor ragofalus yn y camau y mae'n eu cymryd, ac nid wyf yn meddwl bod ailddatgan y rhain ar wyneb y Bil ynddo'i hun yn diffygiol.
Nawr, os yw'r gwelliant ei hun yn ddiffygiol—wedi mynd yn rhy bell neu heb fod yn ddigon da—yna gallai'r Llywodraeth gyflwyno ei gwelliant ei hun wrth gwrs. Dyna roeddwn wedi gobeithio y byddai'n digwydd. Roeddwn wedi gobeithio tynnu hynny allan, ac ni lwyddais i wneud hynny, ac rwy'n gresynu at hynny, oherwydd pan edrychwn ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban—. Ydy, mae'n Fil gwahanol i'r hyn a geir yn yr Alban; mae ganddynt fodel pwerau gwahanol, wrth gwrs. Rydym yn cael hwn drwodd ar ein hen fodel pwerau ein hunain. Serch hynny, mae'r ymrwymiad gwleidyddol yn yr Alban yn glir iawn. Felly, pwy a'i cyflwynodd? Dywedais ychydig yn gynharach mai aelod Llafur a wnaeth, ond aelod Llafur gyda chefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion a'i cyflwynodd. Ac mae gennym Lywodraeth glymblaid yma sy'n cynnwys Democrat Rhyddfrydol ynddi, rhywun sy'n disgrifio'i hun fel amgylcheddwr annibynnol, a'r Blaid Lafur. Dyma'r union glymblaid a gyflwynodd y gwelliannau hyn yn Senedd yr Alban, ac ni allaf weld pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi symud yr un cam hwnnw ymhellach a chyflwyno'i gwelliannau ei hun i ymdrin â hyn. Oherwydd os nad yw hwn yn gweithio, a bod Bil yr Alban yn wahanol, cyflwynwch welliant sy'n gweithio ac sy'n addas ar gyfer y Bil hwn.
Ac os caf orffen ar fy mhwynt olaf, oherwydd mae'r Aelodau—. Wyddoch chi, mae Aelodau'r Llywodraeth sy'n cyflwyno'r Bil brys hwn wedi blino. A ydych chi wedi blino? A ydych chi am fynd i gysgu? Alun Davies, a ydych chi wedi blino? A ydych chi am fynd i gysgu?
Rydych chi'n fy niflasu.
Rwy'n eich diflasu, ydw i? Wel, mae'n ddrwg gen i fy mod yn eich diflasu. Mae'n ddrwg gen i fy mod yn eich diflasu ynglŷn â rhywbeth y credwch ei fod mor bwysig fel eich bod yn ei gyflwyno fel deddfwriaeth frys. Mae'n ddrwg gen i ei fod yn eich diflasu.
A ydych yn cymryd ymyriad?
Gan Alun Davies? Yn bendant.
Na, gan Mick Antoniw.
Gan Mick Antoniw. Roeddwn ar fin ymdrin â phwyntiau Mick Antoniw, ond os yw'n dymuno ymyrryd cyn imi ymdrin â hwy.
Ydw. Hoffwn wneud y pwynt, os oes unrhyw rinwedd o gwbl yn y ddadl, 'Gallai hyn beri anhawster i'r Bil ar gam diweddarach,' a yw'n gambl rydych yn barod i fentro'r holl ddeddfwriaeth arni, ar sail rhywbeth nad yw'n hanfodol?
Mae hynny braidd yn hyf gan Aelod a gyflwynodd Fil asbestos a aeth yn syth i'r Goruchaf Lys a chostio £60,000 i'r Cynulliad hwn.
Sut y mae hynny'n berthnasol i'r ddeddfwriaeth hon?
Mae hynny braidd yn hyf. Nid yw—
Sut yn y byd y mae hynny'n berthnasol?
A hoffech chi ymyrryd eto ac egluro? Fe berswadioch chi'r Cynulliad hwn i gefnogi'r Bil a aeth yn syth i'r Goruchaf Lys.
Na, ni wneuthum hynny. Gyda pharch—gyda pharch—mae'r Aelod yn anghywir, fel y mae wedi bod yn anghywir ar gymaint o bethau yn hyn o beth. Argymhelliad gan y Cwnsler Cyffredinol ydoedd, ac roedd yn briodol oherwydd amgylchiadau penodol. Nid yw'n cymharu o gwbl. Y pwynt yw: a ydych yn barod i gamblo gyda'r darn pwysicaf o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol a gawsom yn y Siambr hon?
Darn mor bwysig o ddeddfwriaeth fel bod eich cyn Weinidog amgylchedd naturiol yn dylyfu gên ac yn dweud ei fod wedi blino ac wedi diflasu ag ef. [Torri ar draws.] Dyna pa mor bwysig ydyw. [Torri ar draws.] Rwy'n dechrau meddwl efallai fod gan y Ceidwadwyr bwynt yma: efallai nad yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â hyn.
Rwy'n credu y dylech ganolbwyntio ar welliant 9 yn awr, Simon Thomas. Gorffennwch eich ymateb i'r ddadl.
Wel, ni fydd gwelliant 9—. Os caiff ei gynnwys yn y Bil, ni fydd gwelliant 9 yn niweidio'r Bil yn y Goruchaf Lys, gan fod yr Aelod a gyflwynodd y Bil asbestos, ac a oedd yn Gwnsler Cyffredinol am ychydig, yn gwybod yn iawn nad yw'r Goruchaf Lys yn taflu Biliau cyfan allan pan welir bod un gwelliant, neu pan welir bod un cymal, yn ddiffygiol. Mae'n addasu'r Bil, dyna i gyd. Mae'n gwybod hynny. Felly, nid oes unrhyw berygl y bydd y Bil hwn yn cael ei wrthod gan y Goruchaf Lys os gwelir bod un agwedd arno—y gwelliant hwn, o'i gynnwys yn y Bil—yn ddiffygiol. Felly, rwy'n gobeithio bod y Cynulliad yn cefnogi'r gwelliant hwn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn, felly, i bleidlais electronig, a galwaf i'r bleidlais gael ei hagor. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, un yn ymatal, 33 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 9 wedi ei wrthod.