Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Wel, rwy'n mabwysiadu fy rôl draddodiadol o fod yn gymydog cyfeillgar, cynhennus i Simon Thomas yn yr achos penodol hwn—nid fy mod yn gwrthwynebu, yn amlwg, cael lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol. Byddai unrhyw un yn ei iawn bwyll eisiau hynny; rydym i gyd yn byw yn y byd hwn, ac rydym i gyd eisiau cael ein hamddiffyn rhag y niwed a ddaw o lygredd. Ond rwyf ychydig yn bryderus am natur yr egwyddor ragofalus wrth ei mewnosod yn y gyfraith. Mae hyn yn rhywbeth a fewnosodwyd yn y gyfraith Ewropeaidd o ganlyniad i gytundeb Maastricht yn 1992, a'r hyn y credaf y mae'n ceisio ei wneud, mewn gwirionedd, yw cael gwared ar y broses bwyso a mesur a ddylai fod wrth wraidd yr hyn a wnawn wrth benderfynu ar bolisi amgylcheddol. Gall hyn greu nifer o broblemau oherwydd, yn y lle cyntaf, wrth gwrs, gall rwystro arloesedd os caiff ei gymhwyso'n rhy llym. Pe baem wedi cymhwyso'r rheol hon yn ôl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, efallai na fyddwn byth wedi gweld injans stêm, neu reilffyrdd yn ymddangos. Ac yn wir, ni fyddem byth wedi cael gwared ar y dyn gyda'r faner goch a arferai gerdded o flaen ceir modur tan 1896, ac o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth i'w ddileu mae gennym y daith geir o Lundain i Brighton bob blwyddyn. Mae ofn yr anhysbys, wrth gwrs, yn broblem—neu fe all fod. A dylem bob amser fod eisiau lefel uchel o ddiogelwch amgylcheddol wrth gwrs, ond dylem bwyso a mesur hynny yn erbyn y gost o wneud dim, a chost dewisiadau amgen sydd ar gael. Felly, os cymhwyswn yr egwyddor hon heb ystyried hynny, efallai ein bod mewn gwirionedd yn gwneud pethau'n waeth yn hytrach nag yn well.
Cymerwch un enghraifft yn unig: os ydym ni, fel y maent wedi'i wneud yn yr Almaen yn awr, yn penderfynu rhoi diwedd ar gynhyrchiant ynni niwclear—mae hynny wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar danwydd ffosil. Ac os ydych yn derbyn y damcaniaethau ynghylch cynhesu byd-eang a achosir gan bobl, gallai hynny, wrth gwrs, gynhyrchu canlyniad gwaeth mewn termau amgylcheddol, nid un gwell. Yn wir, mae'r Almaen yn adeiladu nifer fawr o orsafoedd pŵer glo newydd tra'n cau ei gynhyrchiant niwclear, a hefyd yn dod yn fwy dibynnol—ac mae hwn yn fater geowleidyddol arall o ddiddordeb mawr ar hyn o bryd—ar Rwsia am gyflenwadau nwy. Felly, mae yna bob math o resymau pam na ddylem gymhwyso'r egwyddor ragofalus yn rhy gadarn o bosibl. Pam y mae'n fwy diogel neu'n fwy rhagofalus i ganolbwyntio ar niweidiau posibl gweithgareddau neu dechnolegau newydd, heb gyfeirio at y gweithgareddau neu'r technolegau y byddent yn eu disodli? Nid oes unrhyw reswm a priori dros dybio bod technolegau mwy newydd neu risgiau llai hysbys yn fwy peryglus na thechnolegau hŷn neu fygythiadau cyfarwydd.
Mae cymhwyso'r egwyddor hon yn yr Unol Daleithiau wedi arwain at rai achosion rhyfedd iawn yn wir. Yn wyneb ansicrwydd gwyddonol, nid yw rhai fformwleiddiadau yn pennu unrhyw drothwy isaf o hygrededd neu risg sy'n gweithredu fel amod sbarduno, fel bod unrhyw awgrym y gallai cynnyrch neu weithgarwch arfaethedig niweidio iechyd neu'r amgylchedd yn ddigon i weithredu'r egwyddor. Cafwyd un achos diddorol rhwng Sancho v. Adran Ynni yr Unol Daleithiau, lle y dechreuodd ymgyfreithiwr achos cyfreithiol, a oedd yn cynnwys y gofid poblogaidd y byddai'r peiriant gwrthdaro hadronau mawr yn y Swistir yn peri dinistr y ddaear drwy ffurfio twll du. Hynny yw, dechreuwyd achos cyfreithiol go iawn yn ei gylch. Yn ffodus, cafodd ei daflu allan gan y barnwr yn y pen draw. Ond pan fyddwn yn cyflwyno egwyddorion eang o'r math hwn sy'n gallu arwain at ymgyfreitha cymhleth weithiau, rydym yn codi ysgyfarnog ac nid ydym yn gwybod ble mae ei ben draw. Felly, er fy mod yn credu bod rhaid parhau i roi sylw priodol i'r amgylchedd, mae'n rhaid ei wneud, bob amser, ar sail gwyddoniaeth a chydbwyso risg.
Felly, er nad wyf yn gwrthwynebu'r egwyddorion y mae gwelliant Simon Thomas yn ceisio gwneud inni ganolbwyntio arnynt, pe baem yn ei dderbyn, rwy'n credu y byddai'n gosod cyfrifoldeb rhy feichus ar y Llywodraeth ac mewn gwirionedd, ar un ystyr, byddai'n ein hamddifadu ni fel deddfwyr o un o'n swyddogaethau sylfaenol, sef bod yn grŵp beirniadol sy'n cydbwyso ac sydd, yn y pen draw, yn enw'r bobl, yn penderfynu beth sydd orau ar gyfer ein gwlad.