Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau. Roedd yn rhyfedd nad oedd y Bil hwn yn cynnwys cymal diddymu, yn wahanol i Fil yr Alban. Bydd y gwelliant rwy'n siarad amdano yn cywiro'r diffyg hwnnw, ac rwy'n credu bod hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatgan y byddai'n well ganddi symud ymlaen drwy Fil y DU, ac rwy'n derbyn y datganiad hwnnw fel un didwyll. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio cytundeb ar y sail y gallai gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y DU. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i ddod i gytundeb, ac eisoes wedi gwneud newidiadau buddiol i ddarparu ar gyfer pryderon Llywodraeth Cymru. Gwnaed cynnydd da yr wythnos diwethaf pan gyfarfu Prif Weinidog Cymru â Phrif Weinidog y DU. Mae bwriad i gynnal cyfarfodydd pellach i adeiladu ar y cynnydd da hwn er mwyn sicrhau cytundeb terfynol. Felly, mae'n amlwg fod y prif chwaraewyr yn gobeithio y bydd y Bil hwn yn ddiangen. Felly, mae proses ddiddymu effeithlon yn sicr er budd y cyhoedd.
A gaf fi siarad ychydig ynglŷn â pham y credaf fod fy ngwelliant yn fersiwn well nag un Llywodraeth Cymru? Mae'r fersiwn a osodais yn dilyn model yr Alban. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno opsiwn o ffurf ar broses uwchgadarnhaol, sydd, yn y bôn, yn caniatáu ar gyfer ymgynghori ar ddiddymu. Nid wyf yn credu y byddai hyn er budd y cyhoedd, yn bennaf oherwydd, os ceir cytundeb rhwng y Llywodraethau, y peth gorau i'w wneud fyddai ei ddiddymu'n gyflym a sicrhau y ceir eglurder llwyr ynglŷn â'r sefyllfa gyfreithiol. Y ffordd orau o gyflawni hynny yw bod y lle hwn, ar ôl mynd drwy broses y Bil, yn penderfynu ei ddiddymu wedyn gan y byddai'r amgylchiadau wedi newid cymaint. Hefyd, rwy'n nodi ei bod hi braidd yn rhyfedd cael proses ymgynghori ar ddiddymu pan na fu unrhyw ymgynghoriad o'r fath ar y Ddeddf wreiddiol.