– Senedd Cymru am 6:00 pm ar 21 Mawrth 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3, sy'n ymwneud â diddymu'r Ddeddf. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliant.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau. Roedd yn rhyfedd nad oedd y Bil hwn yn cynnwys cymal diddymu, yn wahanol i Fil yr Alban. Bydd y gwelliant rwy'n siarad amdano yn cywiro'r diffyg hwnnw, ac rwy'n credu bod hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatgan y byddai'n well ganddi symud ymlaen drwy Fil y DU, ac rwy'n derbyn y datganiad hwnnw fel un didwyll. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio cytundeb ar y sail y gallai gefnogi cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y DU. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ymrwymo i ddod i gytundeb, ac eisoes wedi gwneud newidiadau buddiol i ddarparu ar gyfer pryderon Llywodraeth Cymru. Gwnaed cynnydd da yr wythnos diwethaf pan gyfarfu Prif Weinidog Cymru â Phrif Weinidog y DU. Mae bwriad i gynnal cyfarfodydd pellach i adeiladu ar y cynnydd da hwn er mwyn sicrhau cytundeb terfynol. Felly, mae'n amlwg fod y prif chwaraewyr yn gobeithio y bydd y Bil hwn yn ddiangen. Felly, mae proses ddiddymu effeithlon yn sicr er budd y cyhoedd.
A gaf fi siarad ychydig ynglŷn â pham y credaf fod fy ngwelliant yn fersiwn well nag un Llywodraeth Cymru? Mae'r fersiwn a osodais yn dilyn model yr Alban. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno opsiwn o ffurf ar broses uwchgadarnhaol, sydd, yn y bôn, yn caniatáu ar gyfer ymgynghori ar ddiddymu. Nid wyf yn credu y byddai hyn er budd y cyhoedd, yn bennaf oherwydd, os ceir cytundeb rhwng y Llywodraethau, y peth gorau i'w wneud fyddai ei ddiddymu'n gyflym a sicrhau y ceir eglurder llwyr ynglŷn â'r sefyllfa gyfreithiol. Y ffordd orau o gyflawni hynny yw bod y lle hwn, ar ôl mynd drwy broses y Bil, yn penderfynu ei ddiddymu wedyn gan y byddai'r amgylchiadau wedi newid cymaint. Hefyd, rwy'n nodi ei bod hi braidd yn rhyfedd cael proses ymgynghori ar ddiddymu pan na fu unrhyw ymgynghoriad o'r fath ar y Ddeddf wreiddiol.
Fe fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliannau yn enw'r Llywodraeth. Rŷm ni'n cytuno bod bwlch yn y Bil fel ag y mae i beidio â diddymu'r Bil pe bai cytundeb yn cael ei gyrraedd gyda Llywodraeth San Steffan—dyna'r brif reswm gwleidyddol efallai y bydd yn codi, yn hynny o beth. Mae eisiau jest trysori'r eiliad pan siaradodd David Melding yn erbyn proses uwchgadarnhaol. Mae hwnnw'n un i 'cut out and keep' fel y maen nhw'n ei ddweud, a byddaf yn cofio hynny. Rydw i o'r farn bod y broses yma yn briodol. Ydy, mae'n troi o gwmpas ymgynghoriad, ond fe fydd yna o leiaf sgwrs rhwng pwyllgorau'r Cynulliad a'r Llywodraeth pe bai'r Llywodraeth am ddiddymu'r Bil. Felly, mae'r broses yna yn iawn ac yn briodol, rydw i'n meddwl. Bydd angen inni ddeall, cyn pleidleisio ar ddiddymu'r Bil, a yw'r cytundeb gwleidyddol yn un y byddwn ni fel Cynulliad yn ei dderbyn, er enghraifft. Felly, mae'n hollol briodol bod proses uwchgadarnhaol yn troi o gwmpas diddymu'r Bil.
Mae'r ddadl ynglŷn â'r ffaith bod y Bil wedi'i gyflwyno ar frys yn ddadl wahanol, a byddwn yn dychwelyd ati yng Nghyfnod 4, mae'n siŵr, wrth gloi'r trafodaethau ar y Bil yma. Ond nid yw'n wir i ddweud nad yw'r misoedd diwethaf heb fod yn trafod materion yn ymwneud â'r Bil. Mae Steffan Lewis wedi'i godi sawl gwaith yn y Siambr yma ac mae nifer o gyrff allanol wedi bod yn ei drafod yn ogystal. Rydym ni'n cefnogi'r ffaith bod cymal i ddiddymu'r Bil, ond rydym ni'n hapus, ar ôl trafod gyda'r Llywodraeth, i gefnogi'r gwelliannau yn enw Julie James a'r Llywodraeth.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dweud yn glir mai opsiwn wrth gefn yw'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd, a'r canlyniad gorau i ni o hyd fyddai Bil ymadael â'r UE diwygiedig sy'n darparu parhad cyfreithiol ar gyfer y DU gyfan ond sy'n parchu ein setliad datganoli yn briodol, fel y mae pawb wedi'i nodi yn y ddadl. Fodd bynnag, mae'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer taith y Bil ymadael â'r UE drwy Senedd y DU yn golygu hyd yn oed pe baem yn pasio'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd heddiw byddwn wedi gwneud hynny cyn i Fil ymadael â'r UE gwblhau pob un o'i gyfnodau diwygio. Mae yna gyfle o hyd, felly, i gyrraedd cytundeb boddhaol gyda Llywodraeth y DU ac i'r gwelliannau angenrheidiol gael eu gwneud i'r Bil ymadael â'r UE, ac rwyf am sicrhau'r Aelodau ein bod yn parhau i wneud pob ymdrech i sicrhau'r canlyniad hwn. Rwy'n siŵr fod pawb yn credu ein bod yn gwneud hynny. Byddai hyn yn ein galluogi i argymell i'r Cynulliad ei fod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael â'r UE. Os rhoddir y cydsyniad hwnnw, ni fyddai angen bwrw ymlaen â gweithredu'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai gwelliant 4 yn ffordd bragmatig o ddiddymu'r Bil heb fod angen deddfwriaeth sylfaenol bellach. Mae'r gwelliant yn adlewyrchu pŵer sydd wedi'i gynnwys ym Mil parhad Llywodraeth yr Alban, fel y nodwyd, ac mae'n darparu hyblygrwydd i'w ddiddymu yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol yn unig. Credaf y bydd pasio'r gwelliant hwn yn arwydd cryf i Lywodraeth y DU, y Senedd a rhanddeiliaid yma yng Nghymru ein bod yn parhau i flaenoriaethu cytundeb ar y Bil ymadael â'r UE.
Rhaid imi ddweud, David, ar y pwynt hwn, y byddaf innau hefyd yn trysori'r atgof o'r foment y dywedoch nad oeddech yn gweld yr angen am weithdrefn fwy manwl ac mai'r rheswm am hynny oedd oherwydd nad oedd y Llywodraeth wedi bwrw ymlaen yn y ffordd gywir yn y lle cyntaf. Ni allaf help ond teimlo y byddwn yn eich atgoffa o hynny ar sawl achlysur. Nid wyf yn derbyn nad yw'r Llywodraeth wedi bwrw ymlaen yn y ffordd gywir yn y lle cyntaf, ond mae'n ddadl ddiddorol i'w gwneud.
Beth bynnag, mae gwelliannau 5, 6 ac 8 yn ganlyniad i welliant 4 ac wedi'u cynllunio ar y cyd i sicrhau bod y pŵer i ddiddymu yn ddarostyngedig i ofynion llawn y weithdrefn graffu fwy manwl ac ni ellir ei wneud yn amodol ar y weithdrefn frys. Gan mai pŵer i ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol drwy reoliadau yw hwn, rwyf o'r farn ei bod yn hanfodol ei fod yn amodol ar drylwyredd llawn y weithdrefn graffu fwy manwl. Am y rheswm hwnnw buaswn yn annog yr Aelodau i wrthod gwelliant 1 a 2 David Melding. Er y byddai'r rhain yn cyflwyno pŵer diddymu tebyg i'r hyn a geir yng ngwelliant 4, fel y dywedodd, byddent yn gwneud defnydd o'r pŵer hwnnw yn amodol ar lefel is o graffu, ac rwy'n ystyried y byddai hynny'n amhriodol yn yr achos hwn.
David Melding i ymateb i'r ddadl.
Diolch i'r Aelodau am eu perfformiad seneddol egnïol a'u syniadau ynglŷn â fy safbwyntiau traddodiadol ar y materion hyn.
Y pwynt yw, dros y maes pwysig hwn o gyfraith gyfansoddiadol ac ymadawiad Prydain â'r Undeb Ewropeaidd, mae arnom angen eglurder cyfreithiol. Byddai angen inni symud yn gyflym. Y rheswm pam rydych yn dadlau bod yn rhaid i chi wneud hyn ar frys yw bod angen cyflymder yn y broses. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl, mewn perthynas â mater fel hwn, i oedi wedyn ac achosi ansicrwydd drwy gael proses feichus iawn. Felly, mae er budd y cyhoedd yn yr achos hwn i symud yn gyflym a sicrhau eglurder.
Nawr, o ran yr hyn a ddywedodd Simon, wyddoch chi, fel cyn Gadeirydd a Dirprwy Lywydd a oedd yn frwd iawn ynglŷn â'r broses uwchgadarnhaol, y cyfan y gallaf ei ddweud yw'r hyn a ddywedodd gwas sifil uchel iawn wrthyf unwaith pan oeddwn yn meddwl fy mod wedi ei lorio o ran yr hyn roedd wedi'i ddweud. Edrychodd arnaf a dweud, 'Wyddoch chi, mae bod yn oedolyn yn golygu weithiau eich bod yn gorfod byw gyda pharadocs'. Rwy'n cynnig y gwelliant. [Chwerthin.]
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2—David Melding.
Rwy'n cynnig y gwelliant.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 18, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Arweinydd y tŷ, gwelliant 4.
Yn ffurfiol.
Os gwrthodir gwelliant 4, bydd gwelliannau 5, 6 ac 8 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, ymatal un, a phump yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant.
Arweinydd y tŷ, gwelliant 5. Gwelliant 5.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Pedwar-deg saith o blaid, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant.
Gwelliant 6—arweinydd y tŷ.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Pedwar-deg saith o blaid, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant.