Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 7 yn welliant technegol yn dilyn y gwelliant a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2 i gyflwyno adolygiad a darpariaeth fachlud yn adran 12. Mae gwelliant 7 yn atal y weithdrefn frys rhag dod yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau a wnaed o dan adran 12, hynny yw, rheoliadau i estyn y cyfnod y mae'r pŵer i wneud darpariaeth sy'n cyfateb i gyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael yn parhau mewn grym.
Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar welliant 7 gan y bydd yn sicrhau bod y defnydd o reoliadau a wnaed o dan adran 12 yn ddarostyngedig i lefel briodol o graffu gan y Cynulliad.