Grŵp 4: Gweithdrefnau — Gwelliant Technegol (Gwelliant 7)

– Senedd Cymru am 6:10 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:10, 21 Mawrth 2018

Y grŵp nesaf a'r grŵp olaf o welliannau yw grŵp 4, sy'n ymwneud â gweithdrefnau—gwelliant technegol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant a'r unig welliant, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ i gynnig y gwelliant—Julie James. 

Cynigiwyd gwelliant 7 (Julie James).

Photo of Julie James Julie James Labour 6:10, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae gwelliant 7 yn welliant technegol yn dilyn y gwelliant a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2 i gyflwyno adolygiad a darpariaeth fachlud yn adran 12. Mae gwelliant 7 yn atal y weithdrefn frys rhag dod yn gymwys mewn perthynas â rheoliadau a wnaed o dan adran 12, hynny yw, rheoliadau i estyn y cyfnod y mae'r pŵer i wneud darpariaeth sy'n cyfateb i gyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael yn parhau mewn grym.

Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar welliant 7 gan y bydd yn sicrhau bod y defnydd o reoliadau a wnaed o dan adran 12 yn ddarostyngedig i lefel briodol o graffu gan y Cynulliad.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Nid oes neb wedi dangos eu bod nhw eisiau siarad ar y gwelliant yma. Felly, rydw i'n cymryd nad yw'r Aelod eisiau ymateb i'r ddadl. 

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, chwech yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y gwelliant. 

Gwelliant 7: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 704 Gwelliant 7

Ie: 47 ASau

Wedi ymatal: 6 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Cynigiwyd gwelliant 8 (Julie James).

Photo of Julie James Julie James Labour 6:11, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cynnig yn ffurfiol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, chwech yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 8. 

Gwelliant 8: O blaid: 47, Yn erbyn: 0, Ymatal: 6

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 705 Gwelliant 8

Ie: 47 ASau

Wedi ymatal: 6 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:11, 21 Mawrth 2018

Rydym ni felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ac rydw i'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:12, 21 Mawrth 2018

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, gallaf i gadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn ymwneud â phwnc a warchodir yn fy marn i. Galwaf ar arweinydd y tŷ i nodi unrhyw gydsyniadau gofynnol o dan Reol Sefydlog 26.67—Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Nid oes unrhyw gydsyniadau gofynnol o dan Reol Sefydlog 26.67.