Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 21 Mawrth 2018.
Yn sicr. Mae'n amlwg fod y Gweinidog tai wedi clywed y cwestiwn a ofynnwyd gennych, ac o bosibl, gall ysgrifennu atoch, gan roi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â hyn. Ond yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r materion hynny. Mae unigolyn sy'n ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog yn rhywun sydd ag angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a byddant yn gymwys i gael lle i fyw os ydynt yn ddigartref. Rydym yn deall hefyd fod gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gategori blaenoriaethol ychwanegol ar gyfer cyn-aelodau o'r lluoedd arfog. Ond mae angen inni sicrhau nad rhwyd ddiogelwch yn unig ydyw, ond llwybr a fydd yn darparu ar gyfer anghenion cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog. A gobeithio ein bod yn gwneud hynny.
Un o'r mentrau mwy cyffrous rwyf wedi'u gweld yw'r swyddogion cydgysylltu a benodir gan awdurdodau lleol, sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddangos sut y gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth i gyn-filwyr mewn ffordd fwy cyfannol, yn hytrach na fesul sector, fel rydym wedi'i wneud yn y gorffennol. A gobeithio y bydd modd i'r swyddogion cyswllt a'r swyddogion cydgysylltu mewn llywodraeth leol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog.