2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2018.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n helpu cyn-filwyr yn dychwelyd i fywyd sifil? OAQ51936
Rydym wedi nodi amrywiaeth o wasanaethau yn ein pecyn cymorth i'r lluoedd arfog, sy'n egluro ein hymrwymiad i gynorthwyo cyn-filwyr i ddychwelyd i gymunedau ledled Cymru.
Fe fyddwch yn gwybod bod rhai aelodau o'r lluoedd arfog yn ei chael hi'n anodd addasu i fywyd y tu allan i'r lluoedd, ac mae rhai'n cael trafferthion penodol o ganlyniad i'r digwyddiadau trawmatig y maent wedi'u gweld. Gallai hyn esbonio pam y canfu arolwg gan y Lleng Brydeinig yn 2014 fod cyn-filwyr o oedran gweithio ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na'u cymheiriaid ym mhoblogaeth gyffredinol y DU. Mae astudiaethau mwy diweddar ar lefelau digartrefedd ymysg cyn-filwyr y DU yn amrywio, ond yr hyn na wyddom yw cyfran y cyn-filwyr ymysg y boblogaeth ddigartref yng Nghymru, gan nad yw'r ffigurau hynny'n bodoli. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn hyderus fod awdurdodau lleol yn dilyn cyfamod y fyddin o ran sicrhau nad yw cyn-filwyr o dan anfantais mewn perthynas â thai? Ac a wnewch chi roi ymrwymiad hefyd y bydd eich adran yn edrych ar ddigartrefedd ymysg cyn-filwyr yng Nghymru i nodi maint y broblem, ac ystyried pa fesurau y gallwch eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r problemau penodol hynny?
Cytunaf gyda'r Aelod dros y Rhondda fod nifer o faterion y gall cyn-filwyr eu hwynebu wrth iddynt adael y lluoedd arfog a dychwelyd i fywyd sifil. Efallai y bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn datblygu llwybr cyflogaeth er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny a'n bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ymdrin â materion sy'n ymwneud â digartrefedd hefyd. Rwy'n gwbl hyderus fod awdurdodau lleol yn gwneud popeth a allant i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethant o dan y cyfamod, ac yn sicr, rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol i sicrhau bod hynny'n cael ei gyflawni ledled y wlad. Rwy'n ymwybodol o'r pwynt a wnaeth ynglŷn â gwybodaeth, ac rwy'n cytuno. Bûm yn gohebu â Gweinidog y DU yn y maes hwn cyn y Nadolig, ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ddatblygu set o fatricsau i ddeall faint o gyn-filwyr a all fod yn ddigartref, ond hefyd i ddeall patrwm bywyd, os mynnwch, ar ôl bywyd yn y lluoedd arfog i gyn-filwyr ledled Cymru. A bydd hynny nid yn unig yn llywio'r modd yr awn i'r afael â digartrefedd a chyflogaeth, ond yr ystod gyfan o wasanaethau a ddarperir i gyn-filwyr.
Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r materion hyn wedi'u cynnwys yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a chadetiaid ar gyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru, a gwn fod y grŵp hwnnw'n edrych ymlaen at eich ymateb ffurfiol i'r adroddiad hwnnw.
Un o'r pethau sy'n cael sylw ynddo hefyd yw'r alwad am gyllid craidd ar gyfer partneriaid trydydd sector sy'n darparu cynlluniau mentora cymheiriaid. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Newid Cam, y gwasanaeth mentora cymheiriaid a chyngor i gyn-filwyr ac eraill gydag anhwylder straen wedi trawma ac amrywiaeth o broblemau seicolegol sy'n awyddus i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau, dan arweiniad yr elusen CAIS, wedi sicrhau 12 mis o gyllid gan Help for Heroes i gyflogi mentor cymheiriaid ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Sut rydych chi'n ymateb, felly, i'r angen a nodwyd gan GIG Cymru i Gyn-filwyr am gyllid craidd i gadw mentoriaid cymheiriaid yn eu swyddi fel rhan o'u tîm craidd, i adlewyrchu model cyn-filwyr yr Alban?
Rwy'n gobeithio ein bod yn cefnogi ac yn darparu cyllid digonol i GIG Cymru i Gyn-filwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu cyllid blynyddol o £585,000, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol yn ddiweddar o £100,000 y flwyddyn er mwyn cynyddu'r capasiti ar gyfer cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl. Rwy'n gobeithio, felly, ein bod yn darparu ar gyfer yr anghenion a nodir ar hyn o bryd.
Cyfeiria'r Aelod dros Ogledd Cymru at y grŵp trawsbleidiol a'r adroddiad a gyhoeddwyd gan y grŵp trawsbleidiol cyn y Nadolig. Roeddwn wedi gobeithio ymateb yn llawn iddo erbyn toriad y Pasg; nid wyf wedi gallu gwneud hynny, ond gallaf roi ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad hwnnw yn gynnar yn y tymor newydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn fynd ychydig ymhellach ar drywydd cwestiwn Leanne Wood, oherwydd soniodd yn y cwestiwn i ba raddau y credwch fod y cynghorau yn gwneud digon. Ond yn amlwg, mae tai yn broblem, nid yn unig pan fyddant yn gadael y lluoedd, ond efallai beth amser wedi hynny, pan fônt mewn sefyllfaoedd lle maent yn wynebu anawsterau sylweddol. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog tai i sicrhau bod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig un man cyswllt ar gyfer cyn-filwyr hefyd, fel nad oes yn rhaid iddynt fynd ar drywydd gwahanol bobl ar draws y sbectrwm i geisio cael gafael ar y cymorth hwnnw, fel bod ganddynt bwynt cyswllt o blith landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a all eu cynorthwyo gyda'r holl broblemau sydd ganddynt?
Yn sicr. Mae'n amlwg fod y Gweinidog tai wedi clywed y cwestiwn a ofynnwyd gennych, ac o bosibl, gall ysgrifennu atoch, gan roi mwy o wybodaeth i chi ynglŷn â hyn. Ond yn sicr, rydym yn ymwybodol o'r materion hynny. Mae unigolyn sy'n ddigartref ar ôl gadael y lluoedd arfog yn rhywun sydd ag angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a byddant yn gymwys i gael lle i fyw os ydynt yn ddigartref. Rydym yn deall hefyd fod gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gategori blaenoriaethol ychwanegol ar gyfer cyn-aelodau o'r lluoedd arfog. Ond mae angen inni sicrhau nad rhwyd ddiogelwch yn unig ydyw, ond llwybr a fydd yn darparu ar gyfer anghenion cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog. A gobeithio ein bod yn gwneud hynny.
Un o'r mentrau mwy cyffrous rwyf wedi'u gweld yw'r swyddogion cydgysylltu a benodir gan awdurdodau lleol, sy'n gweithio gyda'i gilydd i ddangos sut y gall awdurdodau lleol ddarparu cymorth i gyn-filwyr mewn ffordd fwy cyfannol, yn hytrach na fesul sector, fel rydym wedi'i wneud yn y gorffennol. A gobeithio y bydd modd i'r swyddogion cyswllt a'r swyddogion cydgysylltu mewn llywodraeth leol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad cyn-filwyr sy'n gadael y lluoedd arfog.