Gwasanaethau Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:31, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Roeddwn yn falch iawn, fel yr Aelod dros Ferthyr Tudful, o gael trafod y mater hwn gydag Unsain yr wythnos diwethaf. Credaf fod y gwaith y mae Unsain yn ei wneud yn hollol arloesol o ran sicrhau bod gweithlu ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ochr yn ochr â darparwyr a chyflogwyr i gyflawni'r safonau gwasanaeth gorau posibl i bawb sydd angen gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nod y siarter gofal moesegol yw sicrhau bod gennym sector gofal cymdeithasol cynaliadwy ac o ansawdd uchel, gweithlu uchel ei barch a gefnogir, sy'n darparu gofal tosturiol ac urddasol ar draws yr holl wasanaethau a ddarperir. Credaf y bydd pawb yn y Siambr hon yn ymuno â mi i groesawu'r fenter gan Unsain, ac yn sicr, buaswn yn annog pob rhan o lywodraeth leol i weithio gydag Unsain, ac undebau llafur eraill, wrth gwrs, er mwyn cyflawni'r union uchelgeisiau hynny a'r weledigaeth honno ar gyfer gofal cymdeithasol.