Gwasanaethau Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:30, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Er gwaethaf yr heriau cyllidebol amlwg y soniwyd amdanynt—rydym bellach yn ein wythfed neu nawfed blwyddyn o gyni ariannol—gwn eich bod yn teimlo mor gryf â minnau ynglŷn â gwella gwasanaethau cyhoeddus. Felly, roeddwn yn falch o weld siarter gofal preswyl Unsain yn cael ei lansio'n ddiweddar, yn dilyn lansio'u siarter gofal moesegol y llynedd. Ac roedd y ddwy siarter yn gosod safonau y cred yr undeb y dylid eu cymhwyso er mwyn darparu gwell gofal cymdeithasol a gofal preswyl, gan gynnwys dod â gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr allanol yn ôl yn fewnol. A fyddech chi'n cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddai sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r siarteri hyn yn gam arwyddocaol ymlaen o ran cyflawni gwelliannau yn y gwasanaethau llywodraeth leol penodol hyn er mwyn helpu i ddiwallu anghenion ein dinasyddion mwyaf agored i niwed? Ac a fyddech yn cytuno hefyd fod angen inni ddod o hyd i ffyrdd eraill heblaw darpariaeth allanol o wella effeithlonrwydd a'r modd y darparir ein gwasanaethau?