Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:40, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, dilynwch hynny, ynte? Yn ddiweddar, hysbysebwyd eiddo i'w rentu'n breifat gan asiantiaid eiddo Clee Tompkinson Francis yn fy rhanbarth i, ac rwy'n siŵr fod llawer wedi gweld yr hysbyseb, a oedd yn cynnwys y geiriau, 'Dim anifeiliaid anwes' a 'Dim hawlwyr budd-daliadau' yn yr un frawddeg. Gwn fod pobl eraill wedi hysbysebu yn yr un modd ar Facebook, ond roeddent yn gweithredu'n breifat wrth wneud hynny. A ydych yn cytuno â mi bod hyn yn rhywbeth y gellid ei ystyried yn wahaniaethol? Gallech awgrymu bod cymhariaeth yno rhwng pobl ag anifeiliaid anwes a'r modd y gwahaniaethir yn erbyn pobl wedyn os ydynt am geisio deiliadaeth yn y sector rhentu preifat.