Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:41, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi am godi'r mater hwn ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r sector rhentu preifat i gael gwared ar y rhwystrau a welwn mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yn darparu tai ar gyfer pobl sy'n derbyn budd-daliadau.

Ond yn fwy na hynny hyd yn oed, rwy'n awyddus i'r sector rhentu preifat chwarae ei ran yn darparu tai i bobl a ddaw'n syth oddi ar y strydoedd. Ac rydym yn gallu gwneud hynny drwy ein dull tai yn gyntaf, sydd eisoes yn golygu bod rhai pobl yn dod oddi ar y strydoedd yn syth i'r sector rhentu preifat. Rydym yn gallu gwneud hynny am fod Llywodraeth Cymru yn darparu bondiau, er enghraifft, sy'n cael gwared ar yr elfen o risg ar gyfer y sector rhentu preifat o ran darparu tai i bobl nad oes ganddynt hanes o ddeiliadaethau ddiogel. Ond yn sicr, nid wyf am weld unrhyw arferion gwahaniaethol ar waith mewn unrhyw ran o'r sector, ac rwy'n rhannu eich pryderon difrifol ynghylch pobl nad ydynt am ddarparu tai i bobl sy'n derbyn budd-daliadau am resymau gwahaniaethol.