Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi mynegi pryderon ynghylch y fformiwla ariannu bresennol ar gyfer llywodraeth leol. Nawr, mewn perthynas â hynny, dywedasoch wrthyf ym mis Ionawr:
'Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau Ceidwadol yma yn dadlau dros newid y fformiwla. Yr hyn na chlywais yw cynghorwyr Ceidwadol yn dadlau dros newid y fformiwla yn y fath fodd.'
Ond mae gennyf gopïau yma o'r llythyrau a anfonwyd at eich adran gan Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Bro Morgannwg a ysgrifennwyd ar ôl i chi ddod i'ch swydd ar 3 Tachwedd. Mae'r ddau wedi'u llofnodi gan gynghorwyr Ceidwadol, ac mae'r ddau'n nodi bod eu hawdurdodau yn dymuno gweld newidiadau yn y fformiwla. Mewn gwirionedd, roedd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd John Thomas, yn galw am adolygiad llawn, ac mae'n dal i wneud hynny heddiw. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r gwactod amlwg hwn o ran ymgysylltu ag arweinwyr awdurdodau lleol, ac a wnewch chi ymddiheuro wrth y cynghorau a ysgrifennodd at eich adran ynglŷn â'r fformiwla ariannu am fod mor barod i ddiystyru eu pryderon os gwelwch yn dda?