Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:33, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth—[Torri ar draws.] Rwy'n ymwybodol o'r ohebiaeth sydd ganddi, gan mai gennyf fi y cafodd yr ohebiaeth honno. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r cynnwys. Yr hyn a ddywedaf wrth yr Aelod yw ein bod yn gweithio gyda llywodraeth leol i gyflwyno fformiwla y mae llywodraeth leol yn awyddus i'w defnyddio er mwyn dosbarthu ein grant cynnal ardrethi yn deg i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Ni chafwyd unrhyw gynnig gan lywodraeth leol i wneud newidiadau sylweddol ac arwyddocaol i'r fformiwla honno. Yn amlwg, bydd yr is-grŵp dosbarthu yn edrych ar newidiadau ymylol i'r fformiwla drwy gydol y flwyddyn, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. A byddaf yn parhau i gyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol ac arweinwyr cyllid mewn llywodraeth leol er mwyn trafod pa mor dda y mae'r fformiwla'n gweithio yn eu barn hwy ac a ydynt credu bod angen newid sylweddol neu arwyddocaol. Ond hyd yn hyn, nid yw llywodraeth leol wedi mynd ar drywydd y newid sylweddol ac arwyddocaol hwnnw.