Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 21 Mawrth 2018.
Credaf fod yr her a amlinellwyd gan lefarydd UKIP yn un dda, ac nid wyf yn anghytuno ag ef ynglŷn â'r heriau a amlygwyd. Nid wyf yn credu, ac nid wyf erioed wedi honni, fod y Llywodraeth yn credu bod siâp delfrydol a maint delfrydol i lywodraeth leol. Yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yw cyhoeddi map dangosol a fydd yn ystyried siapiau posibl ar gyfer strwythurau yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro i'r Aelodau ddoe fy mod yn fwy na pharod ac yn fodlon iawn cael trafodaethau pellach ynglŷn â'r holl faterion gwahanol hynny. Mae hon yn broses Papur Gwyrdd: mae'n sgwrs, yn ymgynghoriad, yn ddadl, yn drafodaeth; nid yw'n bolisi Llywodraethol gorffenedig ac nid yw'n safbwynt dogmatig neu'n safbwynt penderfyniadol ynglŷn â'r hyn y dylem ei weld yn y dyfodol. Rwy'n awyddus i ystyried beth sy'n bosibl, gan sicrhau cydbwysedd rhwng y math o leoliaeth a ddisgrifiwyd yma a'r meintiau i allu darparu gwasanaethau cyhoeddus cadarn o ansawdd uchel, ac rwy'n fwy na pharod i ystyried y ffordd orau o wneud hynny.