Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 21 Mawrth 2018.
Wel, dengys y dystiolaeth fod pobl ar gredyd cynhwysol yn cael swyddi'n gyflymach ac yn aros yn hwy yn eu gwaith, a bod dros dri chwarter y tenantiaid eisoes ag ôl-ddyledion rhent cyn iddynt ddechrau hawlio credyd cynhwysol, ond ar ôl pedwar mis, fod y ffigur hwn draean yn llai. Mae bob amser wedi'i gydnabod, fodd bynnag, y bydd angen cymorth ychwanegol ar rai, a dyna pam fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2012 ar gynlluniau ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol, a pham y cyhoeddodd Llywodraeth y DU y fframwaith gwasanaethau cymorth credyd cynhwysol lleol ym mis Chwefror 2013, a ddatblygwyd gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru—a elwir bellach yn gymorth cynhwysol—gan sicrhau bod hawlwyr nad ydynt yn barod i gyllidebu ar gyfer eu hunain eto yn cael eu diogelu a'u cynorthwyo o dan y system newydd, ac y bydd trefniadau talu amgen ar gael i helpu hawlwyr sydd angen cymorth ychwanegol. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â hyn ar lefel ddatganoledig ers 2012, ac eto, rydym yn parhau i glywed am y problemau mynych yn y Siambr, pam nad yw hyn yn gweithio'n well yng Nghymru?