Budd-daliadau Oedran Gweithio

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:59, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mater ar gyfer Llywodraeth y DU yw hwn. Nid yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn rhyngweithio ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion hyn, fel y byddech yn disgwyl inni ei wneud er mwyn rhoi llais cryf i'r pryderon a glywn gan bobl yn ein cymunedau, yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwrando ar lawer o'r argymhellion a wnaed gennym. Rwyf wedi amlinellu ambell un y maent wedi gwrando arnynt, ond yn y pen draw, mae angen i Lywodraeth y DU ddod â'r broses o ddiwygio lles i ben hyd nes yr ymdrinnir â llawer o'r materion sy'n parhau i fod heb eu datrys.