Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 21 Mawrth 2018.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn fater allweddol sy'n wynebu llawer o'r boblogaeth oedrannus, ac nid y boblogaeth oedrannus yn unig yma yng Nghymru, fel y mae adolygiad pwyllgor iechyd wedi'i ddarganfod yn ddiweddar, ond sy'n effeithio'n arbennig ar ein poblogaeth oedrannus yng Nghymru, ac mae canolfannau dydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu i fynd i'r afael â'r agenda benodol honno. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld awdurdodau lleol yn cyflwyno taliadau neu'n codi taliadau mewn canolfannau dydd ar gyfer yr henoed, ac mae canolfannau dydd y trydydd sector yn ei chael hi'n anodd cyrraedd sefyllfaoedd ariannol cynaliadwy. Mae'r gwasanaethau hyn yn hanfodol ac mae angen iddynt fod yn fforddiadwy. Nawr, gyda hynny mewn golwg, a ydych yn cytuno, ar y cyd â'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, i adolygu'r ddarpariaeth gyfredol o ganolfannau dydd yng Nghymru a'r cyllid sydd ar gael i gynghorau lleol ddarparu neu gomisiynu gwasanaethau'r canolfannau dydd hanfodol hyn?