Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 21 Mawrth 2018.
Rydym ni wedi buddsoddi £65 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae setliad llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn blaenoriaethu £42 miliwn a £31 miliwn arall yn y flwyddyn wedyn er mwyn cynnal lefelau presennol y gwariant craidd ar ofal cymdeithasol.