Strwythur Llywodraeth Leol

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu eglurder ynglŷn â strwythur llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ51934

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:07, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Cafodd ein cynigion eu nodi yn y datganiad a wneuthum ddoe ac yn y Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gallwch weld, cyflwynais y cwestiwn hwn cyn i mi sylweddoli eich bod am wneud datganiad annisgwyl, felly rwy'n ymddiheuro am fynd dros yr un tir eto. Fodd bynnag, mae'n bwnc pwysig sydd angen cael ei drafod, fel y gwn y byddwch yn cytuno. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach, roedd ymateb Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'ch datganiad yn llai na chynnes. Yn wir, roedd yn wirioneddol rewllyd. Maent yn nodi bod hyn yn gwbl groes i sicrwydd a roddwyd yn flaenorol na fyddai unrhyw ad-drefnu am o leiaf 10 mlynedd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cyfeirio at y ffaith bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiadau academaidd—ac rwy'n dyfynnu— yn dod i'r casgliad mai anaml iawn y bydd rhaglenni diwygio o'r fath yn cyflawni'r arbedion neu'r newidiadau y gobeithiwyd eu cael yn wreiddiol.

Ar nodyn cadarnhaol, Ysgrifennydd y Cabinet, maent yn edrych ymlaen at eu cyfarfod gyda chi ddydd Gwener ac at ddadl lawn ac egnïol. Rwy'n gobeithio y byddwch wedi cael eich Weetabix cyn honno. [Chwerthin.] Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn hoffi bod yn bry ar y wal i weld beth fydd yn digwydd yn y fan honno.

Yn amlwg, fe ddywedoch chi ddoe fod angen i ni fod yn obeithiol ac rwy'n credu y byddai pawb ohonom yn cytuno bod angen diwygio llywodraeth leol, ond mae angen i ni wybod beth y mae llywodraeth leol a phobl leol eisiau ei weld ar ddiwedd y broses hon mewn gwirionedd. Pa bryd y bydd y rhan wrando hollbwysig o'r broses hon yn dechrau?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:08, 21 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Dechreuodd y broses honno ddoe. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros ran o Sir Fynwy am roi ein sgwrs ar y rhyngrwyd ddoe er mwyn i bawb ei weld. Roeddwn yn teimlo bod y pwyntiau a wnaed ganddo ddoe yn deg iawn ac yn rhai pwysig i'w gwneud, a gobeithiaf ei fod ef yn cydnabod bod fy ymateb wedi'i wneud yn yr un modd.

Gadewch i mi ddweud hyn am Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Gwelais eu hymateb neithiwr, yn amlwg, ond rwyf hefyd, wrth gwrs, wedi cael sgyrsiau hir iawn gydag arweinwyr llywodraeth leol ar draws Cymru a ledled y wlad. Gadewch i mi ddweud hyn: maent yn glir iawn, ac maent wedi dweud yn gyhoeddus dro ar ôl tro, nad yw'r strwythurau cyfredol sydd gennym yn gynaliadwy. Maent wedi dweud hynny'n glir iawn—nad yw'r strwythurau cyfredol yn gynaliadwy. Nid wyf eto wedi cyfarfod ag unrhyw arweinydd llywodraeth leol sy'n gwneud yr achos dros 22 o awdurdodau lleol. Yn wir, nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw un ledled y wlad sy'n gwneud yr achos dros 22 o awdurdodau lleol. Felly, mae gennym bethau rydym yn cytuno yn eu cylch. Rydym yn cytuno na allwn barhau fel ag yr ydym. Rydym yn cytuno nad yw'r system gyfredol yn gynaliadwy, ac rwy'n credu bod y cwestiynau a godwyd gan Dai Lloyd mewn cwestiwn cynharach wedi atgyfnerthu hynny. Felly, y cwestiwn yw: beth a wnawn?

Nid yw'n ddigon da, ac ateb annigonol i'r heriau hyn yw dweud yn syml y dylem gadw'r hyn sydd gennym ac amddiffyn ein strwythurau cyfredol. Nid yw hwnnw'n ymateb digonol i'n sefyllfa ar hyn o bryd. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw siarad o ddifrif, yn blwmp ac yn blaen ac yn onest, yn agored, gyda'n gilydd, a gweithio tuag at yr hyn a fydd, rwy'n gobeithio, yn safbwynt cytûn. Dechreuodd y broses honno o wrando, y sgwrs honno, ddoe, bydd yn parhau tan fis Mehefin, ac rwy'n rhoi fy ngair i'r holl Aelodau yma fy mod yn cadw meddwl agored mewn perthynas â beth fydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw.