Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 21 Mawrth 2018.
Un o elfennau allweddol y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yw creu parc tirlun y Cymoedd, a fydd yn meithrin ymdeimlad o falchder, a bydd unrhyw un sydd wedi teithio i'r Cymoedd gogleddol wedi gweld harddwch yr ardal honno. Gall hyn adeiladu ar ystod amrywiol o fentrau lleol, mentrau cymdeithasol bychain yn aml, sy'n defnyddio tirlun naturiol y Cymoedd ar gyfer adloniant, hamdden a chadwraeth. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, sy'n gwneud llawer o waith da yn fy etholaeth, a dywedasant fod angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o gymorth i'r mentrau cymdeithasol bach hynny'n benodol. A all Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo heddiw i weithio gyda'r mentrau cymdeithasol bach hyn o fewn fframwaith 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', yn enwedig yng nghyd-destun parc tirlun y Cymoedd, fel y gallwn ddarparu'r prosiectau lleol hyn yn nes at gymunedau fel y Cymoedd gogleddol?